Ym mhob peth yr ydym yn cael ein gorthrymu ond nid ein llethu, ein bwrw i ansicrwydd ond nid i anobaith, ein herlid ond nid ein gadael yn amddifad, ein taro i lawr ond nid ein dinistrio. Yr ydym bob amser yn dwyn gyda ni yn ein corff farwolaeth yr Arglwydd Iesu, er mwyn i fywyd Iesu hefyd gael ei ddwyn i'r amlwg yn ein corff ni. Oherwydd yr ydym ni, a ninnau'n fyw, yn cael ein traddodi yn wastad i farwolaeth er mwyn Iesu, i fywyd Iesu hefyd gael ei ddwyn i'r amlwg yn ein cnawd marwol ni. Felly y mae marwolaeth ar waith ynom ni, a bywyd ynoch chwi. Gan fod gennym ni yr un ysbryd crediniol yr ysgrifennir amdano yng ngeiriau'r Ysgrythur, “Credais, ac am hynny y lleferais”, yr ydym ninnau hefyd yn credu, ac am hynny yn llefaru, gan wybod y bydd i'r hwn a gyfododd yr Arglwydd Iesu ein cyfodi ninnau hefyd gyda Iesu, a'n gosod ger ei fron gyda chwi. Oherwydd er eich mwyn chwi y mae'r cyfan, fel y bo i ras Duw fynd ar gynnydd ymhlith mwy a mwy o bobl, ac amlhau'r diolch fwyfwy er gogoniant Duw. Am hynny, nid ydym yn digalonni. Er ein bod yn allanol yn dadfeilio, yn fewnol fe'n hadnewyddir ddydd ar ôl dydd. Oherwydd y baich ysgafn o orthrymder sydd arnom yn awr, darparu y mae, y tu hwnt i bob mesur, bwysau tragwyddol o ogoniant i ni, dim ond inni gadw'n golwg, nid ar y pethau a welir, ond ar y pethau na welir. Dros amser y mae'r pethau a welir, ond y mae'r pethau na welir yn dragwyddol.
Darllen 2 Corinthiaid 4
Gwranda ar 2 Corinthiaid 4
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: 2 Corinthiaid 4:8-18
7 Days
Have you ever been so tired or defeated in life that you’ve wanted to throw in the towel and give up? The Bible is full of encouragement to persevere and keep going! This 7-day reading plan will refresh you for the journey ahead.
10 Days
As Christians, we are not immune to troubles in this world. In fact, John 16:33 promises they will come. If you are facing the storms of life right now, this devotional is for you. It is a reminder of the hope that gets us through life's storms. And if you aren't facing any struggles in this moment, it will give you the foundation that will help you through future trials.
28 Diwrnod
Darlleniadau dyddiol i dy helpu i gael blas ar y Beibl. Mae'r rhain wedi eu paratoi gan Gobaith i Gymru a beibl.net gyda chefnogaeth SU Cymru. Mae Blas ar y Beibl 2 yn addasiad gan Alun Tudur o Bob Dydd Gyda Iesu. Defnyddir gyda chaniatâd y cyhoeddwyr.
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos