Pumwaith y cefais ar law'r Iddewon y deugain llach ond un. Tair gwaith fe'm curwyd â ffyn, unwaith fe'm llabyddiwyd, tair gwaith bûm mewn llongddrylliad, ac am ddiwrnod a noson bûm yn y môr. Bûm ar deithiau yn fynych, mewn peryglon gan afonydd, peryglon ar law lladron, peryglon ar law fy nghenedl fy hun ac ar law'r Cenhedloedd, peryglon yn y dref ac yn yr anialwch ac ar y môr, a pheryglon ymhlith gau gredinwyr. Bûm mewn llafur a lludded, yn fynych heb gwsg, mewn newyn a syched, yn fynych heb luniaeth, yn oer ac yn noeth. Ar wahân i bob peth arall, y mae'r gofal dros yr holl eglwysi yn gwasgu arnaf ddydd ar ôl dydd.
Darllen 2 Corinthiaid 11
Gwranda ar 2 Corinthiaid 11
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: 2 Corinthiaid 11:24-28
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos