Anfonodd frenin y Caldeaid i fyny yn eu herbyn, a lladdodd hwnnw eu gwŷr ifainc â'r cleddyf yn eu cysegrle, heb arbed na llanc na morwyn, na'r hen na'r oedrannus; rhoddodd bob un ohonynt yn ei afael. Dygodd i Fabilon holl lestri tŷ Dduw, bach a mawr, trysorau tŷ'r ARGLWYDD a thrysorau'r brenin a'i swyddogion. Llosgasant dŷ Dduw a dinistrio mur Jerwsalem, a llosgi hefyd ei holl balasau â thân, a distrywio'i holl lestri godidog. Caethgludodd i Fabilon bawb a achubwyd rhag y cleddyf, a buont yn weision iddo ef a'i feibion nes y dechreuodd y Persiaid deyrnasu. Mwynhaodd y wlad ei Sabothau; trwy'r holl amser y bu'n anghyfannedd fe orffwysodd, nes cwblhau deng mlynedd a thrigain, a chyflawni gair yr ARGLWYDD trwy Jeremeia'r proffwyd.
Darllen 2 Cronicl 36
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: 2 Cronicl 36:17-21
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos