Ac yr ydym yn eich annog, gyfeillion, ceryddwch y segurwyr, cysurwch y gwangalon, cynorthwywch y rhai eiddil, byddwch yn amyneddgar wrth bawb. Gwyliwch na fydd neb yn talu drwg am ddrwg i neb, ond ceisiwch bob amser les eich gilydd a lles pawb. Llawenhewch bob amser. Gweddïwch yn ddi-baid. Ym mhob dim rhowch ddiolch, oherwydd hyn yw ewyllys Duw yng Nghrist Iesu i chwi. Peidiwch â diffodd yr Ysbryd; peidiwch â dirmygu proffwydoliaethau. Ond rhowch brawf ar bob peth, a glynwch wrth yr hyn sydd dda. Ymgadwch rhag pob math o ddrygioni.
Darllen 1 Thesaloniaid 5
Gwranda ar 1 Thesaloniaid 5
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: 1 Thesaloniaid 5:14-22
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos