Yr oedd yr ARGLWYDD wedi rhybuddio Samuel ryw ddiwrnod cyn i Saul gyrraedd, a dweud, “Yr adeg yma yfory anfonaf atat ddyn o diriogaeth Benjamin, i'w eneinio'n dywysog ar fy mhobl Israel, ac fe wareda fy mhobl o law'r Philistiaid; oherwydd gwelais drueni fy mhobl, a daeth eu cri ataf.” Pan welodd Samuel Saul, dywedodd yr ARGLWYDD, “Dyma'r dyn y dywedais wrthyt amdano; hwn sydd i reoli fy mhobl.” Daeth Saul i fyny at Samuel yng nghanol y porth a dweud wrtho, “A fyddi mor garedig â dweud wrthyf ymhle y mae tŷ'r gweledydd?” Atebodd Samuel, “Fi yw'r gweledydd; dos i fyny o'm blaen i'r uchelfa; cei fwyta gyda mi heddiw, a gollyngaf di ymaith yfory ar ôl dweud wrthyt bopeth sydd yn dy galon. Ac am yr asennod sydd ar goll gennyt ers tridiau, paid â phoeni amdanynt, oherwydd cafwyd hwy. I bwy y mae popeth dymunol yn Israel? Onid i ti a'th holl deulu?” Atebodd Saul, “Onid un o Benjamin wyf fi, o'r lleiaf o lwythau Israel? A'm tylwyth i yw'r distatlaf o holl dylwythau llwyth Benjamin. Pam, felly, yr wyt yn siarad fel hyn â mi?” Cymerodd Samuel Saul a'i was, a mynd â hwy i'r neuadd a rhoi iddynt y lle blaenaf ymysg y gwahoddedigion; yr oedd tua deg ar hugain ohonynt. Yna dywedodd Samuel wrth y cogydd, “Estyn y darn a roddais iti pan ddywedais wrthyt, ‘Cadw hwn o'r neilltu’.” Dygodd y cogydd y glun a'r hyn oedd arni, a'i gosod gerbron Saul a dweud, “Dyma'r hyn a gadwyd ar dy gyfer; bwyta, oherwydd fe'i cadwyd iti ar gyfer yr amser penodedig, i'w fwyta gyda'r gwahoddedigion.” Bwytaodd Saul y diwrnod hwnnw gyda Samuel.
Wedi iddynt ddychwelyd o'r uchelfa i'r dref, gwnaethant wely i Saul ar ben y tŷ, a chysgodd yno. Pan dorrodd y wawr, galwodd Samuel ar Saul, ac yntau ar y to, a dweud, “Cod, imi gael dy anfon ymaith.” Ac wedi i Saul godi, aeth y ddau allan, Samuel ac yntau. Wedi iddynt ddod i gwr y dref, dywedodd Samuel wrth Saul, “Dywed wrth y gwas am fynd o'n blaen, ac wedyn aros di ennyd, imi fynegi gair Duw iti.”