1 Samuel 18:6-9
1 Samuel 18:6-9 BCND
Un tro yr oeddent ar eu ffordd adref, a Dafydd yn dychwelyd ar ôl taro'r Philistiaid, a daeth y gwragedd allan ym mhob tref yn Israel i edrych; aeth y merched dawnsio i gyfarfod y Brenin Saul gyda thympanau a molawdau a thrionglau, ac yn eu llawenydd canodd y gwragedd: “Lladdodd Saul ei filoedd, a Dafydd ei fyrddiynau.” Digiodd Saul yn arw, a chafodd ei gythruddo gan y dywediad. Meddai, “Maent yn rhoi myrddiynau i Ddafydd, a dim ond miloedd i mi; beth yn rhagor sydd iddo ond y frenhiniaeth?” O'r diwrnod hwnnw ymlaen yr oedd Saul yn cadw llygad ar Ddafydd.

