Ymhen tua mis aeth Nahas yr Ammoniad i fyny a gwersyllu yn erbyn Jabes-gilead. Dywedodd holl wŷr Jabes wrth Nahas, “Gwna gytundeb â ni, ac fe'th wasanaethwn.” Atebodd Nahas yr Ammoniad, “Ar un amod y gwnaf gytundeb â chwi—bod tynnu llygad de pob un ohonoch; a gosodaf hyn yn sarhad ar Israel gyfan.” Yna meddai henuriaid Jabes wrtho, “Rho inni egwyl o wythnos i anfon negeswyr drwy derfynau Israel i gyd, ac os na chawn neb i'n gwaredu, down allan atat.” Daeth y negeswyr at Gibea Saul ac adrodd am hyn yng nghlyw'r bobl, a chododd pawb ei lais ac wylo. Yna daeth Saul o'r maes yn dilyn ei wedd o ychen a gofynnodd, “Beth sydd ar y bobl, yn wylo?” A mynegwyd wrtho helyntion gwŷr Jabes.
Darllen 1 Samuel 11
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: 1 Samuel 11:1-5
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos