Wedi i Samuel gyflwyno pob un o lwythau Israel gerbron yr ARGLWYDD, dewiswyd llwyth Benjamin. Yna cyflwynodd lwyth Benjamin fesul tylwythau, a dewiswyd tylwyth Matri; wedyn dewiswyd Saul fab Cis, ond wedi chwilio amdano, nid oedd i'w gael. Gofynasant eto i'r ARGLWYDD, “A ddaeth y gŵr yma?” A dywedodd yr ARGLWYDD, “Do, y mae'n cuddio ymysg yr offer.” Wedi iddynt redeg a'i gymryd oddi yno a'i osod i sefyll yng nghanol y bobl, yr oedd yn dalach na phawb, o'i ysgwyddau i fyny.
Darllen 1 Samuel 10
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: 1 Samuel 10:20-23
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos