Yr ydych yn ei garu ef, er na welsoch mohono; ac am eich bod yn awr yn credu ynddo heb ei weld, yr ydych yn gorfoleddu â llawenydd anhraethadwy a gogoneddus wrth ichwi fedi ffrwyth eich ffydd, sef iachawdwriaeth eich eneidiau. Iachawdwriaeth yw hon y bu ymofyn ac ymorol dyfal amdani gan y proffwydi a broffwydodd am y gras oedd i ddod i chwi. Holi yr oeddent at ba amser neu amgylchiadau yr oedd Ysbryd Crist o'u mewn yn cyfeirio, wrth dystiolaethu ymlaen llaw i'r dioddefiadau oedd i ddod i ran Crist, ac i'w canlyniadau gogoneddus. Datguddiwyd i'r proffwydi hyn nad arnynt eu hunain ond arnoch chwi yr oeddent yn gweini wrth sôn am y pethau sydd yn awr wedi eu cyhoeddi i chwi gan y rhai a bregethodd yr Efengyl i chwi drwy nerth yr Ysbryd Glân, a anfonwyd o'r nef. Pethau yw'r rhain y mae angylion yn chwenychu edrych arnynt.
Darllen 1 Pedr 1
Gwranda ar 1 Pedr 1
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: 1 Pedr 1:8-12
7 Days
We may not always see or feel it, but God is always with us... even when we're going through hard things. In this plan, Finding Hope Coordinator Amy LaRue writes from the heart about her own family's struggle with addiction and how God's joy broke through in their darkest times.
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos