“Bendigedig fyddo'r ARGLWYDD a roddodd orffwystra i'w bobl Israel yn hollol fel y dywedodd. Ni fethodd yr un gair o'i holl addewid ddaionus a fynegodd trwy ei was Moses. Bydded yr ARGLWYDD ein Duw gyda ni fel y bu gyda'n hynafiaid ni; na fydded iddo'n gwrthod na'n gadael. Bydded inni droi ein calonnau tuag ato, a cherdded yn ei holl ffyrdd a chadw ei orchmynion, ei ordinhadau a'i farnedigaethau, a orchmynnodd i'n hynafiaid. Bydded fy ngeiriau hyn, a weddïais gerbron yr ARGLWYDD, yn agos at yr ARGLWYDD ein Duw ddydd a nos, fel y bo iddo gynnal achos ei was ac achos ei bobl Israel yn ôl yr angen, er mwyn i holl bobloedd y byd wybod mai'r ARGLWYDD sydd Dduw ac nad oes arall. Bydded eich calon yn llwyr ymroddedig i'r ARGLWYDD ein Duw, i rodio yn ei ordinhadau a chadw ei orchmynion fel heddiw.”
Darllen 1 Brenhinoedd 8
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: 1 Brenhinoedd 8:56-61
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos