Dyma sut yr ydym yn gwybod beth yw cariad: am iddo ef roi ei einioes drosom ni. Ac fe ddylem ninnau roi ein heinioes dros ein cydaelodau. Pwy bynnag sydd â meddiannau'r byd ganddo, ac yn gweld ei gydaelod mewn angen, ac eto'n cau ei galon yn ei erbyn, sut y mae cariad Duw yn aros ynddo? Fy mhlant, gadewch inni garu, nid ar air nac ar dafod ond mewn gweithred a gwirionedd. Dyma sut y cawn wybod ein bod o'r gwirionedd, a sicrhau ein calonnau yn ei ŵydd ef pryd bynnag y bydd ein calon yn ein condemnio; oherwydd y mae Duw yn fwy na'n calon, ac y mae'n gwybod pob peth. Gyfeillion annwyl, os nad yw'n calon yn ein condemnio, y mae gennym hyder gerbron Duw, ac yr ydym yn derbyn ganddo ef bob dim yr ydym yn gofyn amdano, am ein bod yn cadw ei orchmynion ac yn gwneud y pethau sydd wrth ei fodd. Dyma ei orchymyn: ein bod i gredu yn enw ei Fab ef, Iesu Grist, a charu'n gilydd, yn union fel y rhoddodd ef orchymyn inni.
Darllen 1 Ioan 3
Gwranda ar 1 Ioan 3
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: 1 Ioan 3:16-23
12 Days
Everyone wants to know what true love is. But few people look at what the Bible says about love. Love is one of the central themes of Scripture and the most essential virtue of the Christian life. This plan from Thistlebend Ministries explores the biblical meaning of love and how to love God better and love others.
30 Diwrnod
Darlleniadau dyddiol i dy helpu i gael blas ar y Beibl. Mae'r rhain wedi eu paratoi gan Gobaith i Gymru a beibl.net gyda chefnogaeth SU Cymru.
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos