Gwelwch pa fath gariad y mae'r Tad wedi ei ddangos tuag atom: cawsom ein galw yn blant Duw, a dyna ydym. Y rheswm nad yw'r byd yn ein hadnabod ni yw nad oedd yn ei adnabod ef. Gyfeillion annwyl, yn awr yr ydym yn blant Duw, ac nid amlygwyd eto beth a fyddwn. Yr ydym yn gwybod, pan fydd ef yn ymddangos, y byddwn yn debyg iddo, oherwydd cawn ei weld ef fel y mae. Ac y mae pob un y mae'r gobaith hwn ganddo, yn ei buro ei hun, fel y mae Crist yn bur. Y mae pob un sy'n cyflawni pechod yn gwneud anghyfraith hefyd; anghyfraith yw pechod. Yr ydych yn gwybod bod Crist wedi ymddangos er mwyn cymryd ymaith bechodau; ac ynddo ef nid oes pechod. Nid oes neb sy'n aros ynddo ef yn pechu; nid yw'r sawl sy'n pechu wedi ei weld ef na'i adnabod ef. Blant, peidiwch â gadael i neb eich arwain ar gyfeiliorn. Y mae'r sawl sy'n gwneud cyfiawnder yn gyfiawn, fel y mae ef yn gyfiawn. O'r diafol y mae'r sawl sy'n cyflawni pechod, oherwydd y mae'r diafol yn pechu o'r dechreuad. I ddinistrio gweithredoedd y diafol yr ymddangosodd Mab Duw. Nid oes neb sydd wedi ei eni o Dduw yn cyflawni pechod, oherwydd y mae had Duw yn aros ynddo; ac ni all bechu, oherwydd ei fod wedi ei eni o Dduw. Dyma sut y mae'n amlwg pwy yw plant Duw a phwy yw plant y diafol: pob un nad yw'n gwneud cyfiawnder, nid yw o Dduw, na'r hwn nad yw'n caru ei gydaelod. Oherwydd hon yw'r genadwri a glywsoch chwi o'r dechrau: ein bod i garu ein gilydd. Nid fel Cain, a oedd o'r Un drwg ac a laddodd ei frawd. A pham y lladdodd ef? Oherwydd fod ei weithredoedd ef yn ddrwg, a gweithredoedd ei frawd yn gyfiawn. Peidiwch â synnu, gyfeillion, os yw'r byd yn eich casáu chwi. Yr ydym ni'n gwybod ein bod wedi croesi o farwolaeth i fywyd, am ein bod yn caru ein cydaelodau; y mae'r sawl nad yw'n caru yn aros mewn marwolaeth. Llofrudd yw pob un sy'n casáu ei gydaelod, ac yr ydych yn gwybod nad oes gan unrhyw lofrudd fywyd tragwyddol yn aros ynddo.
Darllen 1 Ioan 3
Gwranda ar 1 Ioan 3
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: 1 Ioan 3:1-15
3 days
“Our hearts are restless till they find their rest in Thee.” Never before have so many of us felt the restlessness Augustine described with this famous sentence. But what is the solution to our lack of true rest? As this three day plan will show, the solution partially lies in viewing the ancient practice of Sabbath through a different lens—through the lens of “Thee”—Jesus—our ultimate source of peace.
5 Days
Life can be tough, and when you're faced with challenges and in need of encouragement, the best place to go is to God's Word. But sometimes it's difficult to know where to look. God's Word for Every Need includes crucial scriptures for every student of the Word to seek out during the ups and downs of life. Rely on God to help you through your tough times.
12 Days
Everyone wants to know what true love is. But few people look at what the Bible says about love. Love is one of the central themes of Scripture and the most essential virtue of the Christian life. This plan from Thistlebend Ministries explores the biblical meaning of love and how to love God better and love others.
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos