Pwy yw'r un celwyddog, ond y sawl sy'n gwadu mai Iesu yw'r Crist? Dyma'r Anghrist, sef yr un sy'n gwadu'r Tad a'r Mab. Pob un sy'n gwadu'r Mab, nid yw'r Tad ganddo chwaith; y sawl sy'n cyffesu'r Mab, y mae'r Tad ganddo hefyd. Chwithau, bydded i'r hyn a glywsoch o'r dechrau aros ynoch. Os bydd yr hyn a glywsoch o'r dechrau yn aros ynoch, byddwch chwithau hefyd yn aros yn y Mab ac yn y Tad. Dyma'r hyn a addawodd ef i ni, sef bywyd tragwyddol. Ysgrifennais hyn atoch ynglŷn â'r rhai sydd am eich arwain ar gyfeiliorn. A chwithau, y mae'r eneiniad a gawsoch ganddo ef yn aros ynoch, ac nid oes arnoch angen neb i'ch dysgu; ond y mae'r eneiniad a roddodd ef yn eich dysgu am bopeth, a gwir yw, nid celwydd. Fel y dysgodd ef chwi, arhoswch ynddo ef. Ac yn awr, blant, arhoswch ynddo ef, er mwyn inni, pan fydd ef yn ymddangos, gael hyder a bod heb gywilydd arnom ger ei fron ef ar ei ddyfodiad. Os gwyddoch ei fod ef yn gyfiawn, yna fe ddylech wybod bod pob un sy'n gwneud cyfiawnder wedi ei eni ohono ef.
Darllen 1 Ioan 2
Gwranda ar 1 Ioan 2
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: 1 Ioan 2:22-29
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos