Ac yr ydym ni'n ysgrifennu hyn er mwyn i'n llawenydd fod yn gyflawn. Hon yw'r genadwri yr ydym wedi ei chlywed ganddo ef, ac yr ydym yn ei chyhoeddi i chwi: goleuni yw Duw, ac nid oes ynddo ef ddim tywyllwch. Os dywedwn fod gennym gymundeb ag ef, a rhodio yn y tywyllwch, yr ydym yn dweud celwydd, ac nid ydym yn gwneud y gwirionedd; ond os rhodiwn yn y goleuni, fel y mae ef yn y goleuni, y mae gennym gymundeb â'n gilydd, ac y mae gwaed Iesu, ei Fab ef, yn ein glanhau ni o bob pechod. Os dywedwn ein bod yn ddibechod, yr ydym yn ein twyllo ein hunain, ac nid yw'r gwirionedd ynom. Os cyffeswn ein pechodau, y mae ef yn ffyddlon ac yn gyfiawn, ac felly fe faddeua inni ein pechodau, a'n glanhau o bob anghyfiawnder.
Darllen 1 Ioan 1
Gwranda ar 1 Ioan 1
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: 1 Ioan 1:4-9
28 Diwrnod
Darlleniadau dyddiol i dy helpu i gael blas ar y Beibl. Mae'r rhain wedi eu paratoi gan Gobaith i Gymru a beibl.net gyda chefnogaeth SU Cymru. Mae Blas ar y Beibl 2 yn addasiad gan Alun Tudur o Bob Dydd Gyda Iesu. Defnyddir gyda chaniatâd y cyhoeddwyr.
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos