Ynglŷn â'r casgliad i'r saint, gweithredwch chwithau hefyd yn ôl y cyfarwyddiadau a roddais i eglwysi Galatia. Y dydd cyntaf o bob wythnos, bydded i bob un ohonoch, yn ôl ei enillion, osod cyfran o'r neilltu ac ar gadw, fel nad pan ddof fi y gwneir y casgliadau. Wedi imi gyrraedd, mi anfonaf pwy bynnag sydd yn gymeradwy yn eich golwg chwi, i ddwyn eich rhodd i Jerwsalem, gyda llythyrau i'w cyflwyno. Neu, os bydd yn ymddangos yn iawn i minnau fynd hefyd, fe gânt deithio gyda mi.
Darllen 1 Corinthiaid 16
Gwranda ar 1 Corinthiaid 16
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: 1 Corinthiaid 16:1-4
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos