Oherwydd nid un aelod yw'r corff, ond llawer. Os dywed y troed, “Gan nad wyf yn llaw, nid wyf yn rhan o'r corff”, nid yw am hynny heb fod yn rhan o'r corff. Ac os dywed y glust, “Gan nad wyf yn llygad, nid wyf yn rhan o'r corff”, nid yw am hynny heb fod yn rhan o'r corff. Petai'r holl gorff yn llygad, lle byddai'r clyw? Petai'r cwbl yn glyw, lle byddai'r arogli? Ond fel y mae, gosododd Duw yr aelodau, bob un ohonynt, yn y corff fel y gwelodd ef yn dda. Pe baent i gyd yn un aelod, lle byddai'r corff? Ond fel y mae, llawer yw'r aelodau, ond un yw'r corff. Ni all y llygad ddweud wrth y llaw, “Nid oes arnaf dy angen di”, na'r pen chwaith wrth y traed, “Nid oes arnaf eich angen chwi.” I'r gwrthwyneb yn hollol, y mae'r aelodau hynny o'r corff sy'n ymddangos yn wannaf yn angenrheidiol; a'r rhai sydd leiaf eu parch yn ein tyb ni, yr ydym yn amgylchu'r rheini â pharch neilltuol; ac y mae ein haelodau anweddaidd yn cael gwedduster neilltuol. Ond nid oes ar ein haelodau gweddus angen hynny. Gosododd Duw y corff wrth ei gilydd, gan roi parchusrwydd neilltuol i'r aelod oedd heb ddim parch, rhag bod ymraniad yn y corff, ac er mwyn i'r holl aelodau gymryd yr un gofal dros ei gilydd. Os bydd un aelod yn dioddef, y mae pob aelod yn cyd-ddioddef; neu os bydd un aelod yn cael ei anrhydeddu, y mae pob aelod yn cydlawenhau.
Darllen 1 Corinthiaid 12
Gwranda ar 1 Corinthiaid 12
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: 1 Corinthiaid 12:14-26
6 Days
Each daily reading provides insight to how to worship God in every aspect of life and will inspire readers to focus their heart completely on their relationship with Christ. This devotional is based on R. T. Kendall's book Worshipping God. (R. T. Kendall was the pastor of Westminster Chapel in London, England, for twenty-five years.)
7 Days
You know God offers you a more abundant life than the one you're living, but the sad truth is comparison holds you back from going to the next level. In this reading plan Anna Light uncovers insights that will shatter the lid comparison puts on your capabilities, and help you live the free and abundant life God designed for you.
Ready to grow as a leader? Craig Groeschel unpacks six biblical steps anyone can take to become a better leader. Discover a discipline to start, courage to stop, a person to empower, a system to create, a relationship to initiate, and the risk you need to take.
10 Days
Balance. It's what we long for in our lives as we hear shouts of "work harder!" in one ear, and whispers to "rest more" in the other. What if God's plan for us isn't just one way or the other? Enter holy hustle—a lifestyle of working hard and resting well in ways that honor God.
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos