Yr wyf am i chwi wybod, fy nghyfeillion, i'n hynafiaid i gyd fod dan y cwmwl, iddynt i gyd fynd drwy'r môr, iddynt i gyd gael eu bedyddio i Moses yn y cwmwl ac yn y môr, iddynt i gyd fwyta'r un bwyd ysbrydol ac yfed yr un ddiod ysbrydol; oherwydd yr oeddent yn yfed o'r graig ysbrydol oedd yn eu dilyn. A Christ oedd y graig honno. Eto nid oedd y rhan fwyaf ohonynt wrth fodd Duw; oherwydd fe'u gwasgarwyd hwy'n gyrff yn yr anialwch. Digwyddodd y pethau hyn yn esiamplau i ni, i'n rhybuddio rhag chwenychu pethau drwg, fel y gwnaethant hwy. Peidiwch â bod yn eilunaddolwyr, fel rhai ohonynt hwy; fel y mae'n ysgrifenedig, “Eisteddodd y bobl i fwyta ac yfed, a chodi i gyfeddach.” Peidiwn chwaith â chyflawni anfoesoldeb rhywiol, fel y gwnaeth rhai ohonynt hwy—a syrthiodd tair mil ar hugain mewn un diwrnod. Peidiwn â gosod Crist ar ei brawf, fel y gwnaeth rhai ohonynt hwy—ac fe'u difethwyd gan seirff. Peidiwch â grwgnach, fel y gwnaeth rhai ohonynt hwy—ac fe'u difethwyd gan y Dinistrydd. Yn awr, digwyddodd y pethau hyn iddynt hwy fel esiamplau, ac fe'u hysgrifennwyd fel rhybudd i ni, rhai y daeth terfyn yr oesoedd arnom.
Darllen 1 Corinthiaid 10
Gwranda ar 1 Corinthiaid 10
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: 1 Corinthiaid 10:1-11
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos