Ar ôl hynny bu rhyfel yn erbyn y Philistiaid yn Geser. Y tro hwnnw lladdwyd Sippai, un o dylwyth y Reffaim, gan Sibbechai yr Husathiad. A bu rhyfel eilwaith yn erbyn y Philistiaid, a lladdwyd Lahmi, brawd Goliath o Gath, gan Elhanan fab Jair; yr oedd coes gwaywffon Goliath fel carfan gwehydd. Pan fu rhyfel eto yn Gath, yr oedd yno gawr o ddyn gyda chwech o fysedd ar bob llaw a throed, pedwar ar hugain i gyd; ac yr oedd yntau yn hanu o'r Reffaim. Bwriodd sen ar Israel, ond lladdwyd ef gan Jonathan fab Simei, brawd Dafydd. Yr oedd y rhain yn hanu o'r Reffaim yn Gath, a chwympasant trwy law Dafydd a'i weision.
Darllen 1 Cronicl 20
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: 1 Cronicl 20:4-8
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos