Ond nawr dw i'n mynd at i sawl nâth in hala i, a sdim un o chi'n holi fi, 'Ble wit ti'n mynd?'; ond achos bo fi wedi gweud i peth 'ma, ma'ch calone'n llawn galgar. On wedyn weth gweud i gwir wdw i: er ich lles chi dw i'n mynd bant, achos os na â i bant, deith ir Helpwr ddim atoch chi; ond os â i, bidda i'n i hala fe atoch chi. Pan ddeith e bydd e'n dangos i'r byd beth yw istyr pechod, cifiawnder a band, a'n profi shwt mor euog yw dinion. Bydd e'n dangos i bod hi'n bechod peido credu inda i. Bydd e'n profi ing gifawnder i achos bo fi'n mynd nôl at i Tad fel bo chi ddim in ing ngweld i mwy. Bydd e'n profi bo barn wedi dod achos bydd i'r un sy'n rhedeg i byd 'ma in câl wedi'i farnu'n barod. Ma lot da fi weu 'tho chi 'tp, ond gallech chi ddim i odde fe nawr; ond pan ddeith e, Isbryd i gwirionedd, bydd e in ich hebrwng chi miwn i'r gwirionedd i gyd; achos ddim o'i gomands i unan fydd e'n sharad, ond bydd e'n gweud beth fydd e'n i gliwed, a bydd e'n gweu 'tho chi am bethe sy ddod. Bydd e'n rhoi gogoniant i fi achos bydd beth bydd e'n gweu 'tho chi in dwâd wrth beth sy pia fi. Ma bob peth sy 'da'r Tad in pia fi; 'na pam wedes i bydd beth bydd e'n gweu 'tho chi in dwâd wrth beth sy pia fi. O fon hir newch chi ddim ing ngweld i 'to; a wedyn miwn tamed bach weth biddwch chi in ing ngweld i.
Darllen Ioan 16
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Ioan 16:5-16
5 Days
The Lord is alive and active today, and He speaks to each of His children directly. But sometimes, it can be difficult to see and hear Him. By exploring the story of one man’s journey toward understanding the voice of God in the slums of Nairobi, you will learn what it looks like to hear and follow Him.
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos