Rhufeiniaid 16
16
PENNOD XVI.#Barna rhai fod 16:1–20 yn cynnwys nodyn at Eglwys Ephesus wedi ei anfon gyda Phebe, yn yr hwn y cymmeradwyai Paul hi i sylw caredig ei amryw gyfeillion yno; ond nid oes sail ddigonol i hyn.
Cyfarchiadau.
1Yr wyf yn cyflwyno i chwi Phebe ein chwaer, yr hon sydd ddiacones#16:1 Tebygol ei bod yn llanw swydd neillduol, ac nad yw y gair yn sefyll am wasanaeth cyffredinol. Ei gwaith, yn ddiammheu, oedd gweini i'r cleifion, y tlodion, ac eraill. Daeth urdd o ddiaconesau i'r eglwys yn foreu, a gwnaethant wasanaeth mawr (gweler 1 Tim 5:3–16). yr eglwys sydd yn Cenchrea#16:1 Cenchrea oedd porthladd dwyreiniol Corinth. Efallai i'r Apostol ysgrifennu y llythyr yno, a'i anfon gyda Phebe (Act 18:18)., 2fel y derbynioch hi yn yr Arglwydd mewn modd teilwng o'r saint, ac y cefnogoch#16:2 Llyth., sefyll yn ei hyml, cynnorthwyo. hi ym mha fater bynnag y bydd eich hanghen arni; canys hithau hefyd a fu amgeledd#16:2 Prostatis, gwraig a saif o flaen, un yn amddiffyn, noddi, amgeleddu. i lawer, ac i minnau fy hun hefyd#16:2 Efallai ar yr achlysur a enwir yn Act 18:18. Y mae ei adduned yn cyfeirio at waredigaeth o berygl neu afiechyd.. 3Cyferchwch#16:3 Cyferchir yma 30 o bersonau yn Rhufain, â'r hon nid oedd yr Apostol wedi ymweled, ac etto ni enwir Petr, sylfaenydd yr eglwys, yn ol y Pab. Dylifai pobl iddi o bob rhan o'r byd, ac yr oedd Paul wedi pregethu bron ym mhob tiriogaeth, trwy Syria, Asia, Macedonia, Achaia, &c. Llawenydd ei yspryd oedd ei ddychweledigion o bob gwlad. Priscilla#16:3 Prisca א A B C D Brnd. [Bychanigyn yw Priscilla]. ac Acwila fy nghyd‐weithwyr#16:3 Fel gwneuthurwyr pebyll, ond yn bennaf fel cydweithwyr crefyddol (Act 18:2). yng Nghrist Iesu, 4y rhai dros fy mywyd a ddodasant i lawr eu gwddf eu hunain#16:4 Yn amser y rhuthr yn Corinth (Act 18:6–18) a'r cythrwfl yn Ephesus (Act 19) yr oedd Priscilla ac Acwila gyda'r Apostol. Y mae yr ymadrodd yn ffugyrol, ‘Hwy a beryglasant eu bywyd.’, i'r rhai nid myfi yn unig sydd yn diolch, ond hefyd holl eglwysi y Cenhedloedd; 5Cyferchwch hefyd yr eglwys sydd yn eu tŷ hwynt. Cyferchwch fy anwyl Epenetus, yr hwn yw blaenffrwyth Asia#16:5 Sef Asia Leiaf, o'r hon Ephesus oedd y brif‐ddinas.#16:5 Asia א A B C D; Achaia L P. i Grist. 6Cyferchwch Mair#16:6 Marian (yn ol y llawysgrifau goreu). Gall fod yn enw Iuddewig neu Rufeinig., yr hon a lafuriodd lawer ar eich rhan chwi#16:6 Chwi א A B C.. 7Cyferchwch Andronicus a Junias#16:7 Neu, Junia. Gall y gair fod yn y naill ryw neu y llall., fy nghyd‐wladwyr#16:7 Fy nghyd‐wladwyr, perthynasau naturiol., a'm cyd‐garcharorion#16:7 Llyth.: ‘cyd‐garcharorion rhyfel.’ Dywed Clement i Paul gael ei garcharu saith waith., a'r rhai ydynt o nôd ym mhlith yr Apostolion, y rhai hefyd oeddynt yng Nghrist o'm blaen i. 8Cyferchwch Amplias, fy anwylyd yn yr Arglwydd. 9Cyferchwch Urbanus, ein cyd‐weithiwr yng Nghrist, a Stachys fy anwylyd. 10Cyferchwch Appelles y profedig yng Nghrist. Cyferchwch y rhai sydd o dy Aristobulus#16:10 Efallai Aristobulus yr Ieuengaf, ŵyr Herod Fawr, a brawd i Herod ac Agrippa, brenhinoedd Chalcis a Judea, yr hwn a drigai yn Rhufain. Golygir yma, yn debygol, ei wasanaethyddion.. 11Cyferchwch Herodion, fy nghyd‐wladwr. Cyferchwch y rhai sydd o dy Narcissus, y rhai sydd yn yr Arglwydd. 12Cyferchwch Tryphena a Tryphosa#16:12 Yn debygol, dwy chwaer. Ystyr eu henw oedd ‘moethus’, neu ‘llednais’; etto llafurient yn yr Arglwydd., y rhai sydd yn llafurio yn yr Arglwydd. Cyferchwch yr anwyl Persis, yr hon a lafuriodd lawer yn yr Arglwydd. 13Cyferchwch Rufus#16:13 Efallai yr un a enwir yn Marc 15:21, brawd Alexander a Simon o Cyrene., yr etholedig yn yr Arglwydd, a'i fam ef a minnau. 14Cyferchwch Asyncritus, Phlegon, Hermas, Patrobas, Hermes, a'r brodyr sydd gyda hwynt. 15Cyferchwch Philologus a Julia, Nereus a'i chwaer, ac Olympas, a'r holl saint y rhai sydd gyda hwynt#16:15 Y mae yma enwau Groeg, Lladin, Hebraeg, &c., ond y mae yr Efengyl yn cymmeryd meddiant ac yn cyssegru yr oll. Cawn enwau duwiau paganaidd, Phebe, Nereus, Hermes. Yr oedd temlau y duwiau i'w troi yn eglwysi Cristionogol. Yr oedd Castor a Pollux i gludo yr Apostol i Rufain. Y mae dydd Sul yn ddydd Duw.. 16Cyferchwch y naill a'r llall â chusan#16:16 Yr oedd, ac y mae, y cusan yn y Dwyrain yn arwydd o gyfeillgarwch ac o barch. sanctaidd. Y mae holl eglwysi Crist yn eich cyfarch.
Rhybudd yn erbyn dysgawdwyr gau.
17Ac yr wyf yn attolwg i chwi, frodyr, graffu ar y rhai sydd yn peri yr ymraniadau a'r tramgwyddau yn groes i'r athrawiaeth a ddysgasoch chwi, a throwch oddiwrthynt; 18canys y cyfryw rai ni wasanaethant ein Harglwydd Crist#16:18 Iesu, gad. א A B C., eithr eu bol eu hunain; a thrwy lyfniaith#16:18 Ymadrodd caredig a hynaws, llyfn a theg. a gweniaith#16:18 Llyth., ‘ymadrodd da,’ canmolus, gwenieithus. hwy a hudant#16:18 Neu, ‘a dwyllant yn hollol.’ galonnau y rhai diniwed#16:18 Llyth., y diddrwg, yna, yr annghyfrwys.. 19Canys eich ufudd‐dod chwi a gyrhaeddodd glustiau pawb#16:19 Ymadrodd amwys, ond tebygol y gellir aralleirio y meddwl. ‘Yr ydych wedi ufuddhau a llawn‐dderbyn y Gwirionedd. Yr ydych yn gryfion; etto, y mae anghen hyd y nod i chwi fod ar wyliadwriaeth.’. Yr wyf fi gan hynny yn llawenhau ynoch chwi, ond ewyllysiaf i chwi fod yn ddoethion tuag at yr hyn sydd dda, ac yn ddilwgr tuag at yr hyn sydd ddrwg#16:19 Y mae eisieu iddynt fod yn fedrus, treiddgar, yn gyfarwydd, fel ag i adnabod y da o bell, ac yn ddigymmysg (hyn yw ystyr y gair), sef yn unplyg, yn bur, yn ddiniwed, fel nad oes dim yn eu natur i gymmeryd gwenwyn y drwg i mewn. Yna, y mae ei ymosodiadau yn ofer: nid oes yn y pur ddim yn gydnaws âg ef.. 20A Duw yr heddwch a sathr Satan dan eich traed yn fuan.
Gras ein Harglwydd Iesu Grist a fyddo gyda chwi#16:20 Amen; gad. א A B C..
21Mae Timotheus fy nghyd‐weithiwr yn eich cyfarch; a Lucius, a Jason, a Sosipater#16:21 Efallai Lucius o Cyrene (Act 13:1), a Jason, yr un a Jason o Thessalonica (Act 17:5, 6, 7, 9), a Sosipater, yr un a Sopater o Berea (Act 20:4)., fy nghyd‐wladwyr. 22Yr wyf fi Tertius yn eich cyfarch chwi, yr hwn a ysgrifennais yr epistol hwn yn yr Arglwydd#16:22 Yr oedd yr ysgrifwas, fel yr Apostol ei hun, yn gwneyd ei waith yn yr Arglwydd.. 23-24Y mae Gaius#16:23–24 Gall fod yr un a Gaius o Macedonia (Act 19:29), neu Gaius o Derbe (Act 20:4). Gwel 1 Cor 1:14, a 3 Ioan., fy llettywr i, a'r holl eglwys, yn eich cyfarch. Y mae Erastus#16:23–24 Cymharer Act 13:12; 17:34 a 1 Cor 1:26., trysorydd y ddinas, yn eich cyfarch, a'r brawd Cwartus#16:24 Gras ein Harglwydd Iesu Grist a fyddo gyda chwi oll, gad. א A B C..
Molawd.
25Yn awr i'r hwn sydd alluog i'ch cadarnhâu yn ol fy efengyl i a phregethiad Iesu Grist, yn ol dadguddiad y dirgelwch a gadwyd mewn dystawrwydd trwy amserau tragywyddol, 26eithr yn awr a eglurwyd trwy yr Ysgrifeniadau Prophwydol yn ol ordeiniad y tragywyddol Dduw, wedi ei wneuthur yn hysbys i'r holl genhedloedd er ufudd‐dod ffydd, 27— i'r unig ddoeth Dduw, trwy Iesu Grist, y byddo y gogoniant yn dragywydd#16:27 Llyth., i oesoedd yr oesoedd. Y mae y Molawd godidog hwn yn cynnwys mewn iaith oruchel feddylddrych mawr yr holl Epistol, sef bwriad Duw er tragwyddoldeb i uno yr holl genhedloedd trwy undeb ffydd yng Nghrist, ac iddo barotoi y ffordd mewn dystawrwydd trwy y goruchwyliaethau a aethant o'r blaen, ac yn y diwedd darfu i'r awrlais swnio yr awr yr oedd y llen i'w chodi er i'r byd gael gweled fawr ac ‘aml‐liwiog’ ddoethineb Duw ym Mhrynedigaeth dyn.. Amen.
Dewis Presennol:
Rhufeiniaid 16: CTE
Uwcholeuo
Copi
Cymharu
Rhanna
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Cyfieithiad Newydd o'r Testament Newydd gyda Nodiadau gan Dr William Edwards. Cyhoeddwyd mewn 4 cyfrol 1894-1915.