Matthew 27
27
Traddodi Crist i'r Gallu Gwladol.
[Marc 15:1; Luc 23:1, 2; Ioan 18:28–32]
1A phan ddaeth y boreu, cydymgynghorodd#27:1 Llyth.: gymmerasant gynghor. yr Archoffeiriaid a Henuriaid y bobl yn erbyn yr Iesu, fel y rhoddent ef i farwolaeth. 2Ac wedi iddynt ei rwymo, hwy a'i harweiniasant ef ymaith, ac a'i traddodasant ef i Pilat#27:2 Pontius Pilat A C La. Al.; gad. א B L Ti. Tr. WH. Diw. y Rhaglaw#27:2 Hêgêmôn, arweinydd, llywydd, penaeth. Dynoda yma gynnrychiolydd neu ddirprwywr yr Ymherawdwr Rhufeinig..
Hunanladdiad Judas.
3Yna pan welodd Judas, yr hwn a'i bradychodd ef, ddarfod ei gondemnio ef, bu ddrwg ganddo#27:3 Neu, edifar ganddo. Golyga metamelomai gyfnewidiad teimlad, adgno cydwybod, gofid a gyfoda o'r teimlad o golled, &c., Metanoeo a ddynoda wir edifeirwch. Yr oedd Petr yn edifar o herwydd achos ei bechod; yr oedd Judas o herwydd ei effaith. Dynoda metamelomai y gofid bydol a derfyna mewn marwolaeth, ond metanoeo y gofid duwiol a arweinia i fywyd., ac a ddychwelodd y deg ar hugain arian i'r Arch‐offeiriaid a'r Henuriaid, 4gan ddywedyd, Pechais trwy fradychu gwaed gwirion#27:4 Athoôs, llyth.: heb ei gospi; yna diniwed, gwirion.#27:4 gwaed gwirion א B A C Brnd.; gwaed cyfiawn L.. Eithr hwy a ddywedasant, Pa beth yw hyny i ni? Ti a edrychi#27:4 ti a edrychi [opsê], yr holl brif ysgrifau a Brnd. at hyny. 5Ac wedi iddo daflu yr arian i'r#27:5 i'r Cyssegr א B L Ti. Tr. WH. Diw.; yn y Cyssegr A C Al. Cyssegr, efe a ymadawodd; ac efe a aeth ymaith, ac a ymdagodd#27:5 Llyth.: a dagodd ei hun ymaith, naill ai trwy ymgrogi, neu trwy ryw fodd arall.. 6A'r Arch‐offeiriaid a gymmerasant yr arian, ac a ddywedasant, Nid cyfreithlawn eu bwrw hwynt i'r Drysorfa#27:6 Korbanos, Trysorfa y Deml [gweler Marc 7:11]. Gyssegredig, canys pris gwaed ydynt. 7Ac wedi iddynt gyd‐ymgynghori, hwy a brynasant â hwynt Faes y Crochenydd, er bod yn gladdfa dyeithriaid. 8Am hyny y galwyd y maes hwnw, Maes y Gwaed hyd heddyw. 9Yna y cyflawnwyd yr hyn a ddywedwyd trwy Jeremiah#27:9 Y mae y dyfyniad o Zechariah. Y mae y geiriad yma yn wahanol i'r Hebraeg a'r Cyfieithiad Groeg [LXX.]. Rhai a farnant fod yma gamsyniad; ond efallai fod y dyfyniad o Zechariah yn esboniad ar Jeremiah 32:8, 14. Mewn ffaith, y mae y geiriau yn cyfuno tri dyfyniad gwahanol, sef o Gen 37:28 [gwerthiad Joseph]; o Zechariah, a Jer 32:6–8. y Proffwyd, gan ddywedyd,
A hwy a gymmerasant y deg‐ar‐hugain arian, pris y prisiedig,
Yr hwn a brisiasai rhai o feibion Israel:
10A hwy a'u rhoisant am#27:10 Llyth.: i Faes, &c. Faes y Crochenydd,
Megys yr ordeiniodd yr Arglwydd i mi#Zech 11:12, 13.
Cyffesiad Crist ei fod yn Frenin
[Ioan 18:33–38]
11A'r Iesu a#27:11 a osodwyd [estathê] א B C L Brnd.; a safodd [estê] A. osodwyd gerbron y Rhaglaw: a'r Rhaglaw a'i holodd#27:11 Fel yn Llys Barn. ef, gan ddywedyd, Ai ti yw Brenin yr Iuddewon? A'r Iesu a ddywedodd wrtho, Ti a ddywedaist#27:11 hyny neu yn iawn. Y mae y fath ddywediadau yn gyffredin mewn ysgrifeniadau Rabbinaidd.. 12A phan gyhuddid ef gan yr Arch‐offeiriaid a'r Henuriaid, nid atebodd efe ddim.#Es 53:7 13Yna y dywed Pilat wrtho, Oni chlywi di faint#27:13 Neu, y fath bethau [pwysig]. o bethau y maent yn dystiolaethu yn dy erbyn di? 14Ac nid atebodd efe iddo hyd y nod un gair, fel y rhyfeddodd y Rhaglaw yn fawr.
Gwrthodiad Crist
[Marc 15:6–15; Luc 23:23–25; Ioan 18:38–40; 19:4–16]
15Ac ar wyl yr arferai y Rhaglaw ryddhau un carcharor i'r bobl, yr hwn a fynent. 16A'r pryd hwnw yr oedd ganddynt garcharor hynod, a elwid Barabbas#27:16 Iesu Barabbas [yn ol rhai ysgrifau rhedegog a chyfieithiadau]. Gad. א A B D L, &c. Y mae Meyer, Schaff, &c., yn barnu mai Iesu Barabbas oedd enw yr yspeiliwr. Os felly, wele yn y ddau garcharor y fath debygolrwydd enw, y fath wahaniaeth cymeriad!. 17Wedi iddynt, gan hyny, ymgasglu ynghyd, Pilat a ddywedodd wrthynt, Pa un a fynwch i mi ei ryddhau i chwi? Barabbas ai yr Iesu, yr hwn a elwir Crist? 18Canys efe a wyddai mai o genfigen y traddodasent ef.
19Ac efe yn eistedd ar yr orseddfainc, ei wraig a ddanfonodd ato, gan ddywedyd, Na fydded i ti a wnelych a'r Cyfiawn hwnw: canys dyoddefais heddyw lawer o bethau mewn breuddwyd o'i achos ef. 20A'r Arch‐offeiriaid a'r Henuriaid a gymhellasant y bobl, fel y gofynent Barabbas, ac y dyfethent yr Iesu. 21A'r Rhaglaw a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Pa un o'r ddau a fynwch i mi ei ryddhau i chwi? A hwy a ddywedasant, Barabbas. 22A Philat a ddywed wrthynt, Pa beth gan hyny a wnaf i'r Iesu, yr hwn a elwir Crist? Hwythau oll a ddywedant#27:22 wrtho L. Gad. א A B D, &c., Croeshoelier ef. 23Ac efe a ddywedodd, Wel, pa ddrwg a wnaeth efe? Eithr hwy a lefasant yn fwy o lawer, gan ddywedyd, Croeshoelier ef.
24Felly Pilat pan welodd nad oedd dim yn tycio#27:24 Neu nad oedd o un defnydd., ond yn hytrach bod cynhwrf yn cyfodi, a gymmerth ddwfr, ac a olchodd ei ddwylaw gerbron y dyrfa, gan ddywedyd, Diniwed ydwyf fi#27:24 Felly א A L [Tr.] Diw.; o'r gwaed hwn B D Ti. WH. Al. o waed y cyfiawn#27:24 Efallai i'r gair cyfiawn gael ei ddwyn i fewn o adnod 19. hwn: edrychwch chwi. 25A'r holl bobl a atebodd ac a ddywedodd, Bydded ei waed Ef arnom ni ac ar ein plant. 26Yna efe a ryddhaodd iddynt Barabbas; eithr yr Iesu a fflangellodd efe, ac a draddododd i'w groeshoelio.
Gwatwar Crist
[Marc 15:16–19; Ioan 19:1–3]
27Yna milwyr y Rhaglaw a gymmerasant yr Iesu i'r Palas#27:27 Praitôrion. (1) Pabell y cadfridog neu y Pretor Rhufeinig. (2) Palas yn yr hwn y trigai llywydd talaeth neu gynnrychiolydd yr ymherawdwr. (3) Gwersyll y milwyr Pretoraidd (Phil 1:13). Ymherodrol, ac a gynullasant ato#27:27 Llyth.: arno: yr oedd y milwyr mor agos ato, fel y dirwasgent Ef. yr holl gatrawd#27:27 Speira, sef y ddegfed ran o leng, tua 600 o filwyr.. 28A hwy a'i diosgasant#27:28 diosgasant א A L Ti. Tr. WH. Diw.; gwisgasant B D. Ef, ac a roisant am dano Ef fantell#27:28 Chlamus, mantell neu gochl filwrol a wisgasid gan freninoedd, ynadon, cadfridogion, &c. Lladin, paludamentum. o ysgarlad#27:28 Neu, o borphor. [Saesneg: crimson, yr hwn a ddeillia o kermes, sef enw cyfystyr a kokkos, o'r hwn y ceid y lliw coch neu borphor er lliwio.]. 29Ac wedi iddynt blethu coron o ddrain, hwy a'i gosodasant ar ei ben Ef, a chorsen#27:29 Neu, ffon, gwialen. yn ei law ddeheu; ac a blygasant eu gliniau ger ei fron Ef, ac a'i gwatwarasant, gan ddywedyd, Henffych well#27:29 Llyth.: Llawenha!, Ti Frenin yr Iuddewon. 30A hwy a boerasant arno, ac a gymmerasant y gorsen, ac a'i tarawsant#27:30 Golyga y modd a ddefnyddir ei daro drachefn a thrachefn. Ef ar ei ben. 31Ac wedi iddynt ei watwar, hwy a'i diosgasant Ef o'r fantell, ac a'i gwisgasant Ef â'i ddillad ei hun, ac a'i dygasant Ef ymaith i'w groeshoelio.#Es 50:6; 53:3–8
Y Croeshoeliad
[Marc 15:20–28; Luc 23:26–34; Ioan 19:16–24]
32Ac fel yr oeddynt yn myned allan, hwy a gawsant ddyn o Cyrene, a'i enw Simon; hwn a orfodasant#27:32 Neu, ddirgymhellasant, Saesneg: to impress into service (gweler ar 5:41)., fel y dygai ei groes. 33A phan ddaethant i le a elwid Golgotha#27:33 Gair Aramaeg, yr hwn a gyfieithir Penglog (gweler Barn 9:53; 2 Bren 9:35). Calvaria yw y Lladin am dano., yr hwn a elwir, Lle Penglog, 34hwy a roisant iddo i'w yfed win#27:34 win א B D L Brnd.; finegr A Δ. yn gymmysgedig â wermod#27:34 Cholê, defnyddir y gair yn yr Hen Destament am wahanol bethau chwerw. Diamheu mai nid bustl na dim yn perthyn i greaduriaid oedd yn gymmysgedig â'r gwin, ond yn hytrach sudd llysiau chwerw.; ac wedi ei brofi, ni fynodd Efe yfed. 35Ac wedi iddynt ei groeshoelio Ef, hwy a ranasant ei ddillad, gan fwrw coelbren#27:35 Gadewir allan y geiriau “Er cyflawnu y peth a ddywedwyd trwy y proffwydi, Hwy a ranasant fy nillad yn eu plith, ac ar fy ngwisg y bwriasant goelbren” gan yr oll o'r hen lawysgrifau. Lled debyg iddynt gael eu dwyn o Ioan 19:24.#Salm 22:16–18. 36A chan eistedd i lawr, hwy a'i gwyliasant Ef yno. 37A gosodasant uwch ei ben Ef ei gyhuddiad yn ysgrifenedig,
Hwn yw Iesu, Brenin yr Iuddewon.
38Yna y croeshoelir gydag Ef ddau yspeiliwr, un ar y llaw ddeheu, ac un ar y llaw aswy#Es 53:12.
Ei Gablu
[Marc 15:29–32; Luc 23:35–43]
39A'r rhai oeddynt yn myned heibio oeddynt yn ei gablu Ef, 40gan ysgwyd eu penau#Salm 22:7, a dywedyd, Ti yr hwn a ddinystri y Cyssegr, ac mewn tridiau a'i adeiledi, gwared dy hun: os Mab Duw ydwyt ti, disgyn oddiar y groes. 41A'r un modd yr Arch‐offeiriaid hefyd, gan watwar, gyda'r Ysgrifenyddion a'r Henuriaid, a ddywedasant, 42Ereill a waredodd Efe, ei hun nis gall Efe waredu#27:42 Neu, Ai nis gall waredu ei hun?. Brenin#27:42 Os A D La. Gad. א B D L Brnd. Israel yw: disgyned yr awrhon oddiar y groes, ac ni a gredwn arno. 43Y mae yn ymddiried yn Nuw: gwareded Efe Ef yr awrhon, os myn Efe Ef; canys Efe a ddywedodd, Mab Duw ydwyf fi. 44A'r un peth hefyd a edliwiodd yr yspeilwyr iddo, y rhai a groeshoeliasid gyd ag Ef.#Salm 22:6–10; 59:19, 20
Ei ing a'i Angeu
[Marc 15:33–41; Luc 23:44–49; Ioan 19:28–37]
45Ac o'r chweched awr yr oedd tywyllwch ar yr holl ddaear hyd y nawfed awr. 46Ac yn nghylch y nawfed awr y llefodd yr Iesu â llef uchel, gan ddywedyd,
Eli, Eli, lema#27:46 Lema א B L; lima A Δ; leima E Γ G, &c.; lama D. sabachthani;
yr hyn yw,
Fy Nuw, fy Nuw, paham y'm llwyr adewaist.#Salm 22:1
47A rhai o'r sawl oedd yn sefyll yno, pan glywsant, a ddywedasant, Y mae hwn yn galw Elias. 48Ac yn y fan un o honynt a redodd, ac a gymmerth yspwng, ac a'i llanwodd o finegr, ac a'i rhoddodd#27:48 Llyth.: rhoddodd o amgylch. ar gorsen, ac a'i diododd Ef#Salm 59:21. 49Eithr y lleill a ddywedasant, Aros, edrychwn a ydyw Elias yn dyfod i'w waredu Ef#27:49 Y mae א B C L yn ychwanegu y geiriau “Eithr un arall a gymmerodd bicell, ac a drywanodd ei ystlys, ac fe ddaeth allan ddwfr a gwaed” [gweler Ioan 19:34; Salm 22:14]: gad. A D Δ Brnd. ond WH.. 50A'r Iesu, wedi llefain drachefn â llef uchel, a ymadawodd â'r yspryd.
51Ac wele, Llen y Cyssegr a rwygwyd oddifyny i waered yn ddau; a'r ddaear a grynodd; a'r creigiau a rwygwyd, 52a'r beddau a agorwyd, a llawer o gyrff y saint a hunasant a gyfodwyd; 53ac a ddaethant allan o'r beddau ar ol ei Gyfodiad Ef, ac a aethant i mewn i'r Ddinas Sanctaidd, ac a ymddangosasant i lawer. 54A'r Canwriad, a'r rhai oedd gydag ef yn gwylied yr Iesu, wedi gweled y ddaeargryn, a'r pethau a ddygwyddasant, a ofnasant yn ddirfawr, gan ddywedyd, Mewn gwirionedd Mab Duw oedd hwn.
55Ac yr oedd yno wragedd lawer yn syllu o hirbell, y rhai a ganlynasent yr Iesu o Galilea, gan weini iddo ef. 56Yn mhlith y rhai yr oedd Mair Magdalen, a Mair mam Iago a Joseph, a mam meibion Zebedëus.
Ei Gladdu
[Marc 15:42–47; Luc 23:50–56; Ioan 19:38–42]
57A phan ddaeth yr hwyr, daeth gwr goludog o Arimathëa, a'i enw Joseph, yr hwn ei hun hefyd a#27:57 a wnaed yn ddysgybl א C D Brnd.; fuasai ddysgybl A B. wnaed yn ddysgybl#27:57 Llyth.: a ddysgyblwyd i'r Iesu. i'r Iesu. 58Hwn a ddaeth at Pilat, ac a geisiodd gorff yr Iesu. Yna Pilat a orchymynodd ei roddi#27:58 ei gorff A C D Al. [Tr.]; gad. א B L Tr. WH. Diw. i fyny. 59A chan gymmeryd y corff, Joseph a'i hamdôdd mewn llian#27:59 Gwel Marc. glân, 60ac a'i gosododd ef yn ei fedd#27:60 Mnêmeion, cofadail, yna beddrod, tomawd. newydd#27:60 Kainos, newydd, hyny yw, nid newydd ei dori, ond newydd yn yr ystyr o heb ei ddefnyddio. ei hun, yr hwn a dorasai efe yn y graig; ac wedi treiglo maen mawr at ddrws y bedd#27:60 Mnêmeion, cofadail, yna beddrod, tomawd., efe a aeth ymaith. 61A Mair Magdalen oedd yno, a'r Fair arall, yn eistedd gyferbyn â'r bedd#27:61 Taphos, claddedigaeth, yna beddrod, claddfan..
Gwneyd y Bedd yn Ddyogel.
62A thranoeth, yr hwn sydd ar ol dydd y Darpariad#27:62 Sef ar gyfer gwyl, Sabbath, &c., ymgasglodd yr Arch‐offeiriaid a'r Phariseaid at Pilat, 63gan ddywedyd, Arglwydd, daeth i'n cof ddywedyd o'r Twyllwr#27:63 Planos, crwydryn, gwybiwr, hudolwr, twyllwr. hwnw, tra yr oedd efe etto yn fyw, Wedi tridiau yr wyf yn cyfodi#Ioan 2:19.. 64Gorchymyn gan hyny i'r bedd#27:64 Taphos, claddedigaeth, yna beddrod, claddfan. gael ei wneyd yn ddyogel hyd y trydydd dydd, rhag dyfod o'i Ddysgyblion#27:64 yn y nos L G M U: gad. א A B C Brnd. a'i ladrata ef, a dywedyd wrth y bobl, Efe a gyfododd oddiwrth y meirw; a bydd yr amryfusedd diweddaf yn waeth nâ'r cyntaf. 65Pilat a ddywedodd wrthynt, Cymmerwch warcheidwaid#27:65 Neu, wylwyr.: ewch ymaith; gwnewch mor ddyogel ag y medrwch#27:65 Llyth.: ag y gwyddoch.. 66A hwy a aethant ac a wnaethant y bedd yn ddyogel, ac a seliasant y maen, gyda'r#27:66 h. y., yn mhresenoldeb y gwylwyr, neu gyda'r gwylwyr yn cynnorthwyo. gwarcheidwaid.
Dewis Presennol:
Matthew 27: CTE
Uwcholeuo
Rhanna
Copi

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Cyfieithiad Newydd o'r Testament Newydd gyda Nodiadau gan Dr William Edwards. Cyhoeddwyd mewn 4 cyfrol 1894-1915.