Zechariah 2
2
PEN. II.—
1A mi a godais fy ngolwg ac a edrychais:
Ac wele bedwar cyrn.
2A dywedais wrth y genad oedd yn ymddyddan â mi,
Beth yw y rhai hyn:
Ac efe a ddywedodd wrthyf;
Y rhai hyn yw y cyrn a wasgarasant#wyntyllasant neu nithiasant. Vulg. Judah;
Israel a Jerusalem.
3A’r Arglwydd a ddangosodd i mi;
Bedwar gofaint.#celfyddydwyr. LXX. Vulg. seiri. Syr.
4A dywedais,
Beth y mae y rhai hyn yn dyfod i’w wneuthur:
Ac efe a ddywedodd gan ddywedyd,
Y rhai hyn yw y cyrn y rhai a wasgarasant Judah,#ac Israel a ddrylliasant. LXX. bob gŵr. Vulg.
Fel nad allai gŵr godi ei ben;#ac ni chododd neb o honynt ben. LXX. Vulg. fel na chododd wyneb i ddyn ei. Syr.
A’r rhai hyn a ddaethant i’w tarfu hwynt,
I daflu lawr#y diwreiddient. Syr. gyrn y cenedloedd,
Y rhai a godasant gorn yn erbyn tir Judah,#yr Arglwydd. LXX.
I’w gwasgaru hi.
5A chodais fy ngolwg ac edrychais,
Ac wele ŵr:
Ac yn ei law linyn mesur.#at fesur tir. LXX. mesurwyr. Vulg.
6A dywedais,#wrtho. LXX. Syr.
I ba le yr ai di:
Ac efe a ddywedodd wrthyf,
I fesur#fel y mesurwyf ac y gwelwyf. Vulg. Syr. Jerusalem;
I weled beth yw ei lled hi a pheth yw ei hyd hi.
7Ac wele y genad a oedd yn ymddyddan â mi yn myned allan;#a safasai. LXX.
A chenad arall yn myned allan i’w gyfarfod ef.
8Ac efe a ddywedodd wrtho, rhed,
Llefara wrth y llanc hwn#yna. LXX. gan ddywedyd:
Yn faesdrefi#yn doreithiog. LXX. neb fûr. Sym. Vulg. yn wlad. Syr. yn lledan. Th. y cyfaneddir#yr erys. Jerusalem;
Gan amledd dyn ac anifail o’i mewn.
9A myfi a fyddaf iddi, medd yr Arglwydd:
Yn fûr o dân o amgylch:
A byddaf yn ogoniant#mewn gogoniant. Vulg. yn ei chanol.
10Ho, ho,
A ffowch o wlad y gogledd, medd yr Arglwydd:
Canys fel#i bedwar g. Vulg. Syr. o bedwar—y’ch casglaf. LXX. pedwar gwynt y nefoedd y gwasgerais chwi,
Medd yr Arglwydd.
11Ho, Sïon ymachub;#medd yr—i Sïon, ymach-ubwch, y rhai a gyfaneddant ferch. LXX. ffo. Vulg.
Yr hon wyt yn preswylio gyda merch Babylon.
12Canys fel hyn y dywedodd Arglwydd y lluoedd,#ollalluog. LXX.
Ar ol#am, at, wedi. gogoniant;
Y’m anfonodd at y cenedloedd y rhai a’ch ysbeiliasant chwi;
Canys a gyffyrddo â chwi;
Sydd yn cyffwrdd#sydd fel a gyffyrddo â. LXX. â chanwyll ei lygad Ef.#fy llygad. Vulg.
13Canys wele fi yn ysgwyd#yn dwyn. LXX. yn codi. Syr. Vulg. fy llaw arnynt;
A byddant yn ysbail i’w gweision:
A chewch wybod mai Arglwydd y lluoedd a’m hanfonodd.
14Gwaedda#cân. bydd hyfryd. LXX. mola. Vulg. a llawenycha, merch Sïon:
Canys wele fi yn dyfod,
Ac a drigaf yn dy ganol di,
Medd yr Arglwydd.
15A chenedloedd lawer a lynant wrth#ffoant at. LXX. gyfeirir at. Vulg. chwanegir at. Arall. yr Arglwydd yn y dydd hwnw;
A byddant i mi yn bobl:
A mi a drigaf#a thrigant. LXX. Alex. yn dy ganol di;
A chei wybod mai Arglwydd y lluoedd a’m anfonodd atat.
16A’r Arglwydd a etifedda Judah ei ran;#berchenogaeth.
Ar#yn. y wlad santaidd:
Ac a ddewis#ymhyfryda yn. Syr. Jerusalem eto.
17Pob cnawd taw#tawed pob. Vulg. ofned. LXX. a phob cnawd a ofna rhag. Syr yn ngwydd yr Arglwydd:
Canys cyfododd#a deffroes o’i uchelder s. Syr. o’i drigfan#o’i gymylau. LXX. santaidd.
Dewis Presennol:
Zechariah 2: PBJD
Uwcholeuo
Rhanna
Copi

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Proffwydi Byrion gan John Davies, 1881.
Cafodd y testun ei ddigideiddio gan Gymdeithas y Beibl yn 2022.