Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Malaci 1

1
PEN. I.—
1Baich#cymeriad, traethiad gair. LXX. gweledigaeth gair. Syr. gair yr Arglwydd at Israel, trwy law Malaci.#ei genad. gosodwch at eich calonau. LXX.
2Cerais chwi, medd yr Arglwydd;
A chwi a ddywedwch,
Yn mha beth y’n ceraist ni.
3Onid brawd oedd Esau i Jacob, medd yr Arglwydd;
A Jacob a gerais,
Ac Esau a gasheais;
Ac a osodais ei fynyddoedd yn ddiffaethwch;#unigrwydd. Vulg.
A’i etifeddiaeth i ddreigiau#seirph. yn dai anialwch. LXX yn drigfeydd. Syr. anialwch.
4Canys Edom a ddywed,#ac os dywed yr Edomiaid. Syr.
Drylliwyd ni,
A ni a adeiladwn drachefn leoedd anghyfanedd;#adfeilion.
Fel hyn y dywedodd Arglwydd y lluoedd:
Hwy a adeiladant a minau a ddrylliaf:
A gelwir arnynt ardal drygioni;#rhandir ddrygionus.
A’r bobl wrth y rhai y llidiodd#yn erbyn y rhai y gwrthsafodd LXX. yr Arglwydd yn dragywydd.
5A’ch llygaid a welant:
A chwithau a ddywedwch,
Mawrygir#mawrhauwyd. LXX yr Arglwydd;
Tu hwnt#uwchlaw. LXX. yn uwch na. Syr. i derfyn Israel.
6Mab a anrhydedda dad a gwas ei arglwydd:
Ac os Tad wyf fi,
Pa le y mae fy anrhydedd?#pa le yr ydych chwi yn fy anrhydeddu. yn fy ofni. Syr.
Ac os Arglwydd wyf Fi,
Pa le y mae fy ofn?#ofn medd Argl. LXX.
Medd Arglwydd y lluoedd wrthych chwi offeiriaid,#chwi yr off. yw y rhai sydd yn. LXX.
Y rhai ydych yn dirmygu#ysbeilio. Syr. fy enw.
7A chwi a ddywedwch,#os ydych yn dywedyd. Syr. ddywedasoch. LXX, Vulg.
Trwy ba beth y dirmygaswn dy enw di.
8Offrymu yr ydych ar fy allor fara#fwyd. dorthau. LXX. halogedig;
A chwi a ddywedwch,
Trwy ba beth yr halogasom#y’th waradwyddasom. di?#hwynt. LXX.
Trwy ddywedyd o honoch,
Bwrdd yr Arglwydd dirmygedig yw efe.#a’r hyn a osodir arno a ddirmygasoch. LXX.
9Ac yr offrymwch#dwyn yr ydych i’r allor. Syr. ddall yn aberth,
Nid oes ddrwg:#ai nid drwg yw. LXX, Vulg.
Ac yr offrymwch gloff ac afiach.#egwan. LXX.
Nid oes ddrwg:#ai nid drwg yw. LXX, Vulg.
10Cynyg ef yn awr i’th lywydd,
A bydd efe boddlawn i ti,#a dderbyn efe di. LXX. a foddlona efe ef. Vulg.
Neu a dderbyn efe dy wyneb#dydi. dy berson. di;
Medd Arglwydd y lluoedd.
11Ac yn awr ymbiliwch atolwg am wyneb#gweddiwch gerbron D. Syr. dyhuddwch neu boddhewch wyneb eich D., a gweddiwch arno. LXX. ag wyneb—ar Dduw. Duw,
Ac y trugarhao wrthym:#wrthych. Vulg.
O’ch herwydd chwi#o’ch llaw chwi. Hebr. yn eich llaw. LXX, Syr. y bu hyn;
A dderbyn efe#a dderbyniaf. LXX. ni dderbyniaf. Syr. eich wyneb;#wyneb o honoch. genych.
Medd Arglwydd y lluoedd.
12Pwy hefyd yn eich plith a gauai ddrysau;#am hyny hefyd y cemr drysau yn eich plith ac ni chyneuir fy allor yn ofer. LXX.
Ac mi oleuech#na offrymwch ar fy allor yn ofer. Syr. fy allor yn rhad:
Nid oes i mi hyfrydwch ynoch,
Medd Arglwydd y lluoedd;
Ac ni byddaf foddlon i offrwm o’ch llaw.#genych, oddiwrthych. Syr.
13Canys o godiad haul hyd ei fachludiad hefyd,
Mawr fydd#yw. Vulg. gogoneddwyd fy. LXX. fy enw yn mhlith y cenedloedd;
Ac yn mhob lle arogldarth#yr arogldarthant ac yr offrymant i’m henw offr. Syr. yr ydys yn aberthu ac yn offrymu. Vulg. a offrymir i’m henw ac offrwm pur:
Canys mawr fydd fy enw yn mhlith y cenedloedd:
Medd Arglwydd y lluoedd.
14A chwithau ydych yn ei halogi ef:
Wrth ddywedyd o honoch,
Bwrdd yr Arglwydd,
Anmharchus yw efe a’i gynyrch;#gynysgaeth. ddarpariaeth.
Dirmygedig yw ei fwyd#a’i fwydydd ag a osodwyd arno a ddirmygwyd. LXX. fwydydd. Syr. dirmygedig yr hyn a roddir arno yn nghyd â’r tân yr hwn a’i difa. Vulg. ef.
15A dywedasoch,
Wele pa flinder#o flinder y mae. LXX, Vulg. sydd (ydyw),
A chwythasoch#chwythais. LXX, Syr. chwythasoch ymaith. Vulg. arno,
Medd Arglwydd y lluoedd;
A dygasoch a ysglyfaethwyd,#o ysglyfaethau y dygasoch y cloff. Vulg. ysglyfaethau a’r cloffion. LXX.
A’r cloff a’r anhwylus,
A dygasoch hwynt yn offrwm:
A fyddaf fi boddlon iddo o’ch#nid wyf yn eu derbyn o’ch. Syr. llaw chwi,
Medd yr Arglwydd.
16A melldigedig yw y twyllodrus,#oedd yn gallu. LXX.
A bod#ac yr oedd. LXX. yr hwn sydd ganddo. Vulg. yn ei ddeadell wrryw;
Ac yn addunedu#a’i adduned arno. LXX. ac yn aberthu un anafus i’r Arglwydd:
Canys brenin mawr ydwyf Fi,
Medd Arglwydd y lluoedd;
A’m henw yn ofnadwy#amlwg. LXX. yn mhlith y cenedloedd.

Dewis Presennol:

Malaci 1: PBJD

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda