Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Marc 9

9
A.D. 32. —
2 Gweddnewidiad yr Iesu. 11 Efe yn dysgu ei ddisgyblion ynghylch dyfodiad Eleias: 14 yn bwrw allan ysbryd mud a byddar: 30 yn rhagfynegi ei farwolaeth a’i atgyfodiad; 33 yn annog ei ddisgyblion i ostyngeiddrwydd: 38 gan erchi iddynt, na luddient y rhai nid ydynt yn eu herbyn, ac na roddent rwystr i neb o’r ffyddloniaid.
1Ac efe a ddywedodd wrthynt, #Mat 16:28; Luc 9:27Yn wir yr wyf yn dywedyd i chwi, fod rhai o’r rhai sydd yn sefyll yma, ni phrofant angau, hyd oni welont deyrnas Dduw wedi dyfod mewn nerth.
2 # Mat 17; Luc 9:28 Ac wedi chwe diwrnod, y cymerth yr Iesu Pedr, ac Iago, ac Ioan, ac a’u dug hwynt i fynydd uchel, eu hunain o’r neilltu: ac efe a weddnewidiwyd yn eu gŵydd hwynt. 3A’i ddillad ef a aethant yn ddisglair, yn gannaid iawn fel eira; y fath ni fedr un pannwr ar y ddaear eu cannu. 4Ac ymddangosodd iddynt Eleias, gyda Moses: ac yr oeddynt yn ymddiddan â’r Iesu. 5A Phedr a atebodd ac a ddywedodd wrth yr Iesu, Rabbi, da yw i ni fod yma: a gwnawn dair pabell; i ti un, ac i Moses un, ac i Eleias un. 6Canys nis gwyddai beth yr oedd yn ei ddywedyd: canys yr oeddynt wedi dychrynu. 7A daeth cwmwl yn cysgodi drostynt hwy: a llef a ddaeth allan o’r cwmwl, gan ddywedyd, Hwn yw fy annwyl Fab; gwrandewch ef. 8Ac yn ddisymwth, pan edrychasant o amgylch, ni welsant neb mwy, ond yr Iesu yn unig gyda hwynt. 9A phan oeddynt yn dyfod i waered o’r mynydd, efe a orchmynnodd iddynt na ddangosent i neb y pethau a welsent, hyd pan atgyfodai Mab y dyn o feirw. 10A hwy a gadwasant y gair gyda hwynt eu hunain, gan gydymholi beth yw’r atgyfodi o feirw.
11A hwy a ofynasant iddo, gan ddywedyd, Paham y dywed yr ysgrifenyddion #Mal 4:5; Mat 17:10fod yn rhaid i Eleias ddyfod yn gyntaf? 12Ac efe a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Eleias yn ddiau gan ddyfod yn gyntaf a adfer bob peth; #Salm 22:6; Esa 53:2 &c; Dan 9:26a’r modd yr ysgrifennwyd am Fab y dyn, y dioddefai lawer o bethau, ac #Phil 2:7y dirmygid ef. 13Eithr yr wyf yn dywedyd i chwi, ddyfod #Mat 11:14; Luc 1:17Eleias yn ddiau, a gwneuthur ohonynt iddo yr hyn a fynasant, fel yr ysgrifennwyd amdano.
14A phan ddaeth efe at ei ddisgyblion, efe a welodd dyrfa fawr yn eu cylch hwynt, a’r ysgrifenyddion yn cydymholi â hwynt. 15Ac yn ebrwydd yr holl dyrfa, pan ganfuant ef, a ddychrynasant, a chan redeg ato, a gyfarchasant iddo. 16Ac efe a ofynnodd i’r ysgrifenyddion, Pa gydymholi yr ydych #9:16 â hwynt?yn eich plith? 17Ac #Mat 17:14; Luc 9:38un o’r dyrfa a atebodd ac a ddywedodd, Athro, mi a ddygais fy mab atat, ag ysbryd mud ynddo: 18A pha le bynnag y cymero ef, efe a’i #9:18 maedda.rhwyga; ac yntau a fwrw ewyn, ac a ysgyrnyga ddannedd, ac y mae’n dihoeni: ac mi a ddywedais wrth dy ddisgyblion ar iddynt ei fwrw ef allan; ac nis gallasant. 19Ac efe a atebodd iddynt, ac a ddywedodd, O genhedlaeth anffyddlon, pa hyd y byddaf gyda chwi? pa hyd y goddefaf chwi? dygwch ef ataf fi. 20A hwy a’i dygasant ef ato. A #Pen 1:26phan welodd ef, yn y man yr ysbryd a’i drylliodd ef; a chan syrthio ar y ddaear, efe a ymdreiglodd, dan falu ewyn. 21A gofynnodd yr Iesu i’w dad ef, Beth sydd o amser er pan ddarfu fel hyn iddo? Yntau a ddywedodd, Er yn fachgen. 22A mynych y taflodd efe ef yn tân, ac i’r dyfroedd, fel y difethai efe ef: ond os gelli di ddim, cymorth ni, gan dosturio wrthym. 23A’r Iesu a ddywedodd wrtho, #Luc 17:6Os gelli di gredu, pob peth a all fod i’r neb a gredo. 24Ac yn y fan tad y bachgen, dan lefain ac wylofain, a ddywedodd, Yr wyf fi yn credu, O Arglwydd; cymorth fy anghrediniaeth i. 25A phan welodd yr Iesu fod y dyrfa yn cydredeg ato, efe a geryddodd yr ysbryd aflan, gan ddywedyd wrtho, Tydi ysbryd mud a byddar, yr wyf fi yn gorchymyn i ti, Tyred allan ohono, ac na ddos mwy iddo ef. 26Ac wedi i’r ysbryd lefain, a dryllio llawer arno ef, efe a aeth allan: ac yr oedd efe fel un marw, fel y dywedodd llawer ei farw ef. 27A’r Iesu a’i cymerodd ef erbyn ei law, ac a’i cyfododd; ac efe a safodd i fyny. 28Ac wedi iddo fyned i mewn i’r tŷ, ei ddisgyblion a ofynasant iddo o’r neilltu, Paham na allem ni ei fwrw ef allan? 29Ac efe a ddywedodd wrthynt, Y rhyw hwn ni all er dim ddyfod allan, ond trwy weddi ac ympryd.
30 # Mat 17:22 Ac wedi ymadael oddi yno, hwy a ymdeithiasant trwy Galilea: ac ni fynnai efe wybod o neb. 31Canys yr oedd efe yn dysgu ei ddisgyblion, ac yn dywedyd wrthynt, #Luc 9:44Y traddodid Mab y dyn i ddwylo dynion, ac y lladdent ef; ac wedi ei ladd, yr atgyfodai y trydydd dydd. 32Ond nid oeddynt hwy yn deall yr ymadrodd, ac ofni yr oeddynt ofyn iddo.
33Ac #Mat 18:1; Luc 9:46efe a ddaeth i Gapernaum: a phan oedd efe yn y tŷ, efe a ofynnodd iddynt, Beth yr oeddech yn ymddadlau yn eich plith eich hunain ar y ffordd? 34Ond hwy a dawsant â sôn: canys ymddadleuasent â’i gilydd ar y ffordd, pwy a fyddai fwyaf. 35Ac efe a eisteddodd, ac a alwodd y deuddeg, ac a ddywedodd wrthynt, #Mat 20:26, 27; Pen 10:43Os myn neb fod yn gyntaf, efe a fydd olaf o’r cwbl, a gweinidog i bawb. 36Ac #Pen 10:16efe a gymerth fachgennyn, ac a’i gosododd ef yn eu canol hwynt: ac wedi iddo ei gymryd ef yn ei freichiau, efe a ddywedodd wrthynt, 37Pwy bynnag a dderbynio un o’r cyfryw fechgyn yn fy enw i, sydd yn fy nerbyn i: a #Mat 10:40phwy bynnag a’m derbyn i, nid myfi y mae yn ei dderbyn, ond yr hwn a’m danfonodd i.
38Ac #Luc 9:49Ioan a’i hatebodd ef, gan ddywedyd, Athro, ni a welsom un yn bwrw allan gythreuliaid yn dy enw di, yr hwn nid yw yn ein dilyn ni; ac ni a waharddasom iddo, am nad yw yn ein dilyn ni. 39A’r Iesu a ddywedodd, Na waherddwch iddo; #1 Cor 12:3canys nid oes neb a wna wyrthiau yn fy enw i, ac a all yn y fan roi drygair i mi. 40#Mat 12:30Canys y neb nid yw i’n herbyn, o’n tu ni y mae. 41#Mat 10:42Canys pwy bynnag a roddo i chwi i’w yfed gwpanaid o ddwfr yn fy enw i, am eich bod yn perthyn i Grist, yn wir meddaf i chwi, Ni chyll efe ei obrwy. 42A #Mat 18:6; Luc 17:1phwy bynnag a rwystro un o’r rhai bychain hyn sydd yn credu ynof fi, gwell oedd iddo osod maen melin o amgylch ei wddf, a’i daflu i’r môr. 43Ac #Mat 5:29; 18:8os dy law #9:43 Neu, a wna i ti droseddu : ac felly ad. 45, 47a’th rwystra, tor hi ymaith: gwell yw i ti fyned i mewn i’r bywyd yn anafus, nag â dwy law gennyt fyned i uffern, i’r tân anniffoddadwy: 44#Esa 66:24Lle nid yw eu pryf hwynt yn marw, na’r tân yn diffodd. 45Ac os dy droed a’th rwystra, tor ef ymaith: gwell yw i ti fyned i mewn i’r bywyd yn gloff, nag â dau droed gennyt dy daflu i uffern, i’r tân anniffoddadwy: 46Lle nid yw eu pryf hwynt yn marw, na’r tân yn diffodd. 47Ac os dy lygad a’th rwystra, bwrw ef ymaith: gwell yw i ti fyned i mewn i deyrnas Dduw yn unllygeidiog, nag â dau lygad gennyt dy daflu i dân uffern: 48Lle nid yw eu pryf hwynt yn marw, na’r tân yn diffodd. 49Canys pob un a helltir â thân, #Lef 2:13a phob aberth a helltir â halen. 50#Mat 5:13; Luc 14:34Da yw’r halen: ond os bydd yr halen yn ddi‐hallt, â pha beth yr helltwch ef? Bid gennych halen ynoch eich hunain, a #Rhuf 12:18; Heb 12:14byddwch heddychlon â’ch gilydd.

Dewis Presennol:

Marc 9: BWM1955C

Uwcholeuo

Copi

Cymharu

Rhanna

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda