Marc 8
8
A.D. 32. —
1 Crist yn porthi y bobl yn rhyfeddol: 10 yn gwrthod rhoddi arwydd i’r Phariseaid: 14 yn rhybuddio ei ddisgyblion i ochelyd surdoes y Phariseaid, a surdoes Herod: 22 yn rhoddi ei olwg i ddyn dall: 27 yn cydnabod mai efe yw Crist, yr hwn a ddioddefai, ac a gyfodai eilwaith: 34 ac yn annog i fod yn ddioddefgar mewn erlid o achos proffesu yr efengyl.
1Yn y dyddiau hynny, #Mat 15:32pan oedd y dyrfa yn fawr iawn, ac heb ganddynt ddim i’w fwyta, y galwodd yr Iesu ei ddisgyblion ato, ac a ddywedodd wrthynt, 2Yr wyf fi yn tosturio wrth y dyrfa, oblegid y maent hwy dridiau weithian yn aros gyda mi, ac nid oes ganddynt ddim i’w fwyta: 3Ac os gollyngaf hwynt ymaith ar eu cythlwng i’w teiau eu hunain, hwy a lewygant ar y ffordd: canys rhai ohonynt a ddaeth o bell. 4A’i ddisgyblion ef a’i hatebasant, O ba le y gall neb ddigoni’r rhai hyn â bara yma yn yr anialwch? 5Ac efe a ofynnodd iddynt, Pa sawl torth sydd gennych? A hwy a ddywedasant, Saith. 6Ac efe a orchmynnodd i’r dyrfa eistedd ar y llawr: ac a gymerodd y saith dorth, ac a ddiolchodd, ac a’u torrodd hwynt, ac a’u rhoddes i’w ddisgyblion, fel y gosodent hwynt ger eu bronnau; a gosodasant hwynt gerbron y bobl. 7Ac yr oedd ganddynt ychydig bysgod bychain: ac #Mat 14:19wedi iddo fendithio, efe a barodd ddodi’r rhai hynny hefyd ger eu bronnau hwynt. 8A hwy a fwytasant, ac a ddigonwyd: a hwy a godasant o’r briwfwyd gweddill, saith fasgedaid. 9A’r rhai a fwytasent oedd ynghylch pedair mil: ac efe a’u gollyngodd hwynt ymaith.
10 #
Mat 15:39
Ac yn y man, wedi iddo fyned i long gyda’i ddisgyblion, efe a ddaeth i barthau Dalmanutha. 11A’r #Mat 12:38; 16:1; Ioan 6:30Phariseaid a ddaethant allan, ac a ddechreuasant ymholi ag ef, gan geisio ganddo arwydd o’r nef, gan ei demtio. 12Yntau, gan ddwys ochneidio yn ei ysbryd, a ddywedodd, Beth a wna’r genhedlaeth yma yn ceisio arwydd? Yn wir meddaf i chwi, Ni roddir arwydd i’r genhedlaeth yma. 13Ac efe a’u gadawodd hwynt, ac a aeth i’r llong drachefn, ac a dynnodd ymaith i’r lan arall.
14 #
Mat 16:5
A’r disgyblion a adawsant yn angof gymryd bara, ac nid oedd ganddynt gyda hwynt ond un dorth yn y llong. 15#Mat 16:6; Luc 12:1Yna y gorchmynnodd efe iddynt, gan ddywedyd, Gwyliwch, ymogelwch rhag surdoes y Phariseaid, a surdoes Herod. 16Ac ymresymu a wnaethant y naill wrth y llall, gan ddywedyd, Hyn sydd #Mat 16:7oblegid nad oes gennym fara. 17A phan wybu’r Iesu, efe a ddywedodd wrthynt, Pa ymresymu yr ydych, am nad oes gennych fara? #Pen 6:52onid ydych chwi eto yn ystyried, nac yn deall? ydyw eich calon eto gennych wedi caledu? 18A chennych lygaid, oni welwch? a chennych glustiau, oni chlywch? ac onid ydych yn cofio? 19#Mat 14:20; Pen 6:43; Ioan 6:13Pan dorrais y pum torth hynny ymysg y pum mil, pa sawl basgedaid yn llawn o friwfwyd a godasoch i fyny? Dywedasant wrtho, Deuddeg. 20A #Mat 15:37; Ad. 8phan dorrais y saith ymhlith y pedair mil, llond pa sawl basged o friwfwyd a godasoch i fyny? A hwy a ddywedasant, Saith. 21Ac efe a ddywedodd wrthynt, Pa fodd nad ydych yn deall?
22Ac efe a ddaeth i Fethsaida; a hwy a ddygasant ato un dall, ac a ddeisyfasant arno ar iddo gyffwrdd ag ef, 23Ac wedi ymaflyd yn llaw y dall, efe a’i tywysodd ef allan o’r dref: ac #Pen 7:33wedi iddo boeri ar ei lygaid ef, a dodi ei ddwylo arno, efe a ofynnodd iddo, a oedd efe yn gweled dim. 24Ac wedi edrych i fyny, efe a ddywedodd, Yr ydwyf yn gweled dynion megis prennau yn rhodio. 25Wedi hynny y gosododd efe ei ddwylo drachefn ar ei lygaid ef, ac a barodd iddo edrych i fyny: ac efe a gafodd ei olwg, ac efe a welai bawb o bell, ac yn eglur. 26Ac efe a’i hanfonodd ef adref, i’w dŷ, gan ddywedyd, Na ddos i’r dref, ac #Mat 8:4; Pen 5:43na ddywed i neb yn y dref.
27 #
Mat 16:13; Luc 9:18 A’r Iesu a aeth allan, efe a’i ddisgyblion, i drefi Cesarea Philipi: ac ar y ffordd efe a ofynnodd i’w ddisgyblion, gan ddywedyd wrthynt, Pwy y mae dynion yn dywedyd fy mod i? 28A hwy a atebasant, #Mat 14:2Ioan Fedyddiwr; a rhai, Eleias; ac eraill, Un o’r proffwydi. 29Ac efe a ddywedodd wrthynt, Ond pwy yr ydych chwi yn dywedyd fy mod i? A Phedr a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Ti yw’r Crist. 30Ac efe a orchmynnodd iddynt na ddywedent i neb #8:30 hynny.amdano. 31Ac #Mat 16:21; 17:22; Luc 9:22efe a ddechreuodd eu dysgu hwynt, fod yn rhaid i Fab y dyn oddef llawer, a’i wrthod gan yr henuriaid, a’r archoffeiriaid, a’r ysgrifenyddion, a’i ladd, ac wedi tridiau atgyfodi. 32A’r ymadrodd hwnnw a ddywedodd efe yn eglur. A Phedr a ymaflodd ynddo, ac a ddechreuodd ei geryddu ef. 33Eithr wedi iddo droi, ac edrych ar ei ddisgyblion, efe a geryddodd Pedr, gan ddywedyd, Dos ymaith yn fy ôl i, Satan; am nad wyt yn synied y pethau sydd o Dduw, ond y pethau sydd o ddynion.
34Ac wedi iddo alw ato y dyrfa, gyda’i ddisgyblion, efe a ddywedodd wrthynt, #Mat 10:38; 16:24; Luc 9:23; 14:27Y neb a fynno ddyfod ar fy ôl i, ymwaded ag ef ei hun, a chyfoded ei groes, a dilyned fi. 35Canys #Ioan 12:25pwy bynnag a fynno gadw ei einioes, a’i cyll hi: ond pwy bynnag a gollo ei einioes er fy mwyn i a’r efengyl, hwnnw a’i ceidw hi. 36Canys pa lesâd i ddyn, os ennill yr holl fyd, a cholli ei enaid ei hun? 37Neu pa beth a rydd dyn yn gyfnewid am ei enaid? 38Canys #Mat 10:33pwy bynnag #Edrych Rhuf 1:16; 2 Tim 1:8a fyddo cywilydd ganddo fi a’m geiriau yn yr odinebus a’r bechadurus genhedlaeth hon; bydd cywilydd gan Fab y dyn yntau hefyd, pan ddêl yng ngogoniant ei Dad, gyda’r angylion sanctaidd.
Dewis Presennol:
Marc 8: BWM1955C
Uwcholeuo
Copi
Cymharu
Rhanna
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan gyda chroesgyfeiriadau © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible with cross-references © 1955 British and Foreign Bible Society