Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Micha 7

7
1 Yr eglwys yn cwyno leied yw o rifedi, 3 mor gyffredin yw llygredigaeth; 5 ac yn rhoi ei pwys a’i hyder, nid ar ddyn, ond ar Dduw: 8 yn gorfoleddu ar ei gelynion; 14 a Duw yn ei chysuro hi trwy addewidion, 16 a thrwy waradwyddo ei gelynion, 18 a thrwy ei drugareddau.
1Gwae fi! canys ydwyf fel #7:1 Heb. casgliadau haf.casgliadau ffrwythydd haf, fel lloffion grawnwin y cynhaeaf gwin; nid oes swp o rawn i’w bwyta; fy enaid a flysiodd #Hos 9:10yr aeddfed ffrwyth cyntaf. 2#Salm 12:1; Esa 57:1Darfu am y #7:2 Neu, daionus, neu, trugarog.duwiol oddi ar y ddaear, ac nid oes un uniawn ymhlith dynion; cynllwyn y maent oll am waed; pob un sydd yn hela ei frawd â rhwyd.
3I wneuthur drygioni â’r ddwy law yn egnïol, #Hos 4:18y tywysog a ofyn, #Esa 1:23; Pen 3:11a’r barnwr am wobr; a’r hwn sydd fawr a ddywed #7:3 Neu, ei ysgeler feddwl. Heb. ysgelerder ei enaid.lygredigaeth ei feddwl: felly y plethant ef. 4Y gorau ohonynt #Esec 2:6; Edrych Esa 55:13 sydd fel miaren, yr unionaf yn arwach na chae drain; dydd dy wylwyr, a’th ofwy, sydd yn dyfod: bellach y bydd eu penbleth hwynt.
5 # Jer 9:4 Na chredwch i gyfaill, nac ymddiriedwch i dywysog: cadw ddrws dy enau rhag yr hon a orwedd yn dy fynwes. 6Canys #Esec 22:7; Mat 10:21, 35, 36; Luc 12:53; 21:16mab a amharcha ei dad, y ferch a gyfyd yn erbyn ei mam, a’r waudd yn erbyn ei chwegr: a gelynion gŵr yw dynion ei dŷ. 7Am hynny mi a edrychaf ar yr Arglwydd, disgwyliaf wrth Dduw fy iachawdwriaeth: fy Nuw a’m gwrendy.
8 # Galar 4:21 Na lawenycha i’m herbyn, fy ngelynes: pan syrthiwyf, cyfodaf; pan eisteddwyf mewn tywyllwch, yr Arglwydd a lewyrcha i mi. 9Dioddefaf ddig yr Arglwydd, canys pechais i’w erbyn; hyd oni ddadleuo fy nghwyn, a gwneuthur i mi farn: efe a’m dwg allan i’r goleuad, a mi a welaf ei gyfiawnder ef. 10#7:10 Neu, A thi a weli fy ngelynes, ac a’i gorchuddi â chywilydd, yr hon, &cA’m gelynes a gaiff weled, a chywilydd a’i gorchuddia hi, yr hon a ddywedodd wrthyf, #Salm 42:3, 10; 79:10; 115:2; Joel 2:17Mae yr Arglwydd dy Dduw? fy llygaid a’i gwelant hi; bellach y bydd hi yn sathrfa, megis tom yr heolydd. 11Y dydd yr adeiledir dy #Amos 9:11, &cfuriau, y dydd hwnnw yr ymbellha y ddeddf. 12Y dydd hwnnw #Esa 19:23, &cy daw efe hyd atat o Asyria, #7:12 Neu, ie, hyd y ddinas.ac o’r dinasoedd cedyrn, ac o’r cadernid hyd yr afon, ac o fôr i fôr, ac o fynydd i fynydd. 13#7:13 Neu, Wedi bod y wlad yn anrhaith.Eto y wlad a fydd yn anrhaith o achos ei thrigolion, #Jer 21:14am ffrwyth eu gweithredoedd.
14 # 7:14 Neu, Llywodraetha. Portha dy bobl â’th wialen, defaid dy etifeddiaeth, y rhai sydd yn trigo yn y coed yn unig, yng nghanol Carmel: porant yn Basan a Gilead, megis yn y dyddiau gynt. 15Megis y dyddiau y daethost allan o dir yr Aifft, y dangosaf iddo ryfeddodau.
16Y cenhedloedd a welant, ac a gywilyddiant gan eu holl gryfder hwynt: rhoddant eu llaw ar eu genau; eu clustiau a fyddarant. 17#Salm 72:9; Esa 49:23Llyfant y llwch fel sarff; #Salm 18:45fel #7:17 Neu, ymlusgiaid.pryfed y ddaear y symudant o’u llochesau: arswydant rhag yr Arglwydd ein Duw ni, ac o’th achos di yr ofnant.
18Pa Dduw sydd fel tydi, #Exod 34:6, 7yn maddau anwiredd, ac yn myned heibio i anwiredd gweddill ei etifeddiaeth? #Salm 103:9; Esa 57:16; Jer 3:5ni ddeil efe ei ddig byth, am fod yn hoff ganddo drugaredd. 19Efe a ddychwel, efe a drugarha wrthym: efe a ddarostwng ein hanwireddau; a thi a defli eu holl bechodau i ddyfnderoedd y môr. 20Ti a gyflewni y gwirionedd i Jacob, y drugaredd hefyd i Abraham, yr hwn a dyngaist i’n tadau er y dyddiau gynt.

Dewis Presennol:

Micha 7: BWM1955C

Uwcholeuo

Copi

Cymharu

Rhanna

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda