Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Micha 6

6
1 Ymrafael Duw oherwydd angharedigrwydd, 6 ac anwybodaeth, 10 ac anghyfiawnder, 16 a delw‐addoliaeth ei bobl.
1Gwrandewch, atolwg, y peth a ddywed yr Arglwydd; Cyfod, ymddadlau #6:1 Neu, o flaen y mynyddoedd.â’r #Esa 1:2mynyddoedd, a chlywed y bryniau dy lais. 2#Salm 50:1, 4Gwrandewch, y mynyddoedd, a chedyrn sylfeini y ddaear, gŵyn yr Arglwydd; canys #Esa 1:18; 5:3, 4; 43:26; Hos 4:1 y mae cwyn rhwng yr Arglwydd a’i bobl, ac efe a ymddadlau ag Israel. 3Fy mhobl, #Jer 2:5, 31beth a wneuthum i ti? ac ym mha beth y’th flinais? tystiolaetha i’m herbyn. 4Canys #Exod 12:51; 14:30; 20:2mi a’th ddygais o dir yr Aifft, ac a’th ryddheais o dŷ y caethiwed, ac a anfonais o’th flaen Moses, Aaron, a Miriam. 5Fy mhobl, cofia, atolwg, beth a fwriadodd #Num 22:5; 23:7; Deut 23:4, 5; Jos 24:9, 10; Dat 2:14Balac brenin Moab, a pha ateb a roddes Balaam mab Beor iddo, o #Num 25:1; Jos 5:10Sittim hyd Gilgal; fel y galloch wybod cyfiawnder yr Arglwydd.
6Â pha beth y deuaf gerbron yr Arglwydd, ac yr ymgrymaf gerbron yr uchel Dduw? a ddeuaf fi ger ei fron ef â phoethoffrymau, ac â #6:6 Heb. lloiau, meibion blwydd?dyniewaid? 7#Salm 50:9; 51:16; Esa 1:11A fodlonir yr Arglwydd â miloedd o feheryn, neu â myrddiwn o ffrydiau olew? a roddaf fi fy nghyntaf‐anedig dros fy anwiredd, ffrwyth #6:7 Neu, fy nghorff.fy nghroth dros bechod fy enaid? 8Dangosodd efe i ti, ddyn, beth sydd dda: a #Deut 10:12pha beth a gais yr Arglwydd gennyt, ond #Esa 1:17gwneuthur barn, a hoffi trugaredd, ac ymostwng i rodio gyda’th Dduw? 9Llef yr Arglwydd a lefa ar y ddinas, #6:9 Neu, a’th enw a wêl yr hyn sydd ddoeth.a’r doeth a wêl dy enw: gwrandewch y wialen, a phwy a’i hordeiniodd.
10 A oes eto #6:10 Neu, i bob gŵr dŷ yr anwir, &cdrysorau anwiredd o fewn tŷ y gŵr anwir, #6:10 Heb. â mesur culni. Amos 8:5a’r mesur prin, #Diar 11:1; 20:10, 23 peth sydd ffiaidd? 11A #6:11 Neu, fyddaf fi lân â chloriannau, &cgyfrifwn yn lân un â #Hos 12:7chloriannau anwir, ac â chod o gerrig twyllodrus? 12Canys y mae ei chyfoethogion yn llawn trais, a’i thrigolion a ddywedasant gelwydd; #Jer 9:8a’u tafod sydd dwyllodrus yn eu genau. 13A minnau hefyd a’th glwyfaf wrth dy daro, wrth dy anrheithio am dy bechodau. 14#Lef 26:26; Hos 4:10Ti a fwytei, ac ni’th ddigonir; a’th ostyngiad fydd yn dy ganol dy hun: ti a ymefli, ac nid achubi; a’r hyn a achubych, a roddaf i’r cleddyf. 15Ti a #Deut 28:38, 39; Amos 5:11; Seff 1:13; Hag 1:6heui, ond ni fedi; ti a sethri yr olewydd, ond nid ymiri ag olew; a gwin newydd, ond nid yfi win.
16 # 6:16 Neu, Cadw y mae yn ddyfal ddeddfau Omri. Cadw yr ydys ddeddfau #1 Bren 16:25, 26Omri, a holl weithredoedd #1 Bren 16:30, &cAhab, a rhodio yr ydych yn eu cynghorion: fel y’th wnawn yn #6:16 Neu, syndod.anghyfannedd, a’i thrigolion i’w hwtio: am hynny y dygwch warth fy mhobl.

Dewis Presennol:

Micha 6: BWM1955C

Uwcholeuo

Copi

Cymharu

Rhanna

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda