Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Hosea 1

1
1 Hosea, er mwyn dangos barn Duw am buteindra ysbrydol, yn cymryd Gomer yn wraig; 4 ac yn cenhedlu Jesreel, 6 a Lo‐ruhama, 8 a Lo‐ammi. 10 Adfer Jwda ac Israel.
1Gair yr Arglwydd yr hwn a ddaeth at Hosea, mab Beeri, yn nyddiau Usseia, Jotham, Ahas, a Heseceia, brenhinoedd Jwda, ac yn nyddiau Jeroboam mab Joas, brenin Israel. 2Dechrau ymadrodd yr Arglwydd trwy Hosea. Yr Arglwydd a ddywedodd wrth Hosea, #Felly pen 3:1Dos, cymer i ti wraig o odineb, a phlant o odineb: oherwydd #Salm 73:27; Esec 23:3, &cy mae y wlad gan buteinio yn puteinio oddi ar ôl yr Arglwydd. 3Ac efe a aeth ac a gymerodd Gomer merch Diblaim; a hi a feichiogodd, ac a ddug iddo ef fab. 4A’r Arglwydd a ddywedodd wrtho, Galw ei enw ef Jesreel: canys ar fyrder y #1:4 Heb. ymwelaf â gwaed.dialaf waed Jesreel ar dŷ Jehu, ac y gwnaf i frenhiniaeth tŷ Israel ddarfod. 5A’r dydd hwnnw y torraf fwa Israel yng nglyn Jesreel.
6A hi a feichiogodd eilwaith, ac a esgorodd ar ferch. A dywedodd yr Arglwydd wrtho, Galw ei henw hi #1:6 Sef, Heb gael trugaredd.Lo‐rwhama; am na chwanegaf drugarhau wrth dŷ Israel; #1:6 Neu, fel y cwbl faddeuwn iddynt.eithr dygaf hwynt ymaith yn llwyr. 7Ac eto mi a drugarhaf wrth dŷ Jwda, ac a’u cadwaf hwynt trwy yr Arglwydd eu Duw; ac #Sech 4:6; 9:10nid â bwa, nac â chleddyf, nac â rhyfel, nac â meirch nac â marchogion, y cadwaf hwynt.
8A hi a ddiddyfnodd Lo‐rwhama, ac a feichiogodd, ac a esgorodd ar fab. 9A Duw a ddywedodd, Galw ei enw ef #1:9 Sef, Nid fy mhobl i.Lo‐ammi: canys nid ydych bobl i mi, ac ni byddaf i chwithau yn Dduw.
10Eto #Gen 32:12bydd nifer meibion Israel fel tywod y môr, yr hwn nis mesurir, ac nis cyfrifir: a #Rhuf 9:25, 26; 1 Pedr 2:10bydd, #1:10 Neu, yn lle yr hyn a ddywedwyd wrthynt.yn y man lle y dywedwyd wrthynt, Nid pobl i mi ydych chwi, y dywedir yno wrthynt, Meibion y Duw byw ydych. 11#Esa 11:13; Jer 3:18; Esec 34:23; 37:16–24Yna meibion Jwda a meibion Israel a gesglir ynghyd, a hwy a osodant iddynt un pen; a deuant i fyny o’r tir: canys mawr fydd dydd Jesreel.

Dewis Presennol:

Hosea 1: BWM1955C

Uwcholeuo

Copi

Cymharu

Rhanna

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda