Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Daniel 12

12
1 Michael a wared Israel o’i flinderau. 5 Dangos yr amseroedd i Daniel.
1Ac yn yr amser hwnnw y saif Michael y tywysog mawr, yr hwn sydd yn sefyll dros feibion dy bobl: yna #Mat 24:21y bydd amser blinder, y cyfryw ni bu er pan yw cenedl hyd yr amser hwnnw: ac yn yr amser hwnnw y gwaredir dy holl bobl, y rhai a gaffer yn ysgrifenedig yn #Exod 32:32; Salm 56:8; Esec 13:9; Luc 10:20; Phil 4:3; Dat 3:5; 13:8y llyfr. 2A llawer o’r rhai sydd yn cysgu yn llwch y ddaear a ddeffroant, #Mat 25:46; Ioan 5:28, 29; Act 24:15rhai i fywyd tragwyddol, a #Esa 66:24; Rhuf 9:21rhai i warth a dirmyg tragwyddol. 3#Pen 11:33, 35A’r #12:3 Neu, athrawon.doethion #Mat 13:43a ddisgleiriant fel disgleirdeb y ffurfafen; a’r rhai a droant lawer i gyfiawnder, a fyddant #1 Cor 15:41fel y sêr byth yn dragywydd. 4#Pen 8:26; ad. 9Tithau, Daniel, #Dat 10:4; 22:10cae ar y geiriau, a selia y llyfr hyd amser y diwedd: llawer a gyniweirant, a gwybodaeth a amlheir.
5Yna myfi Daniel a edrychais, ac wele ddau eraill yn sefyll, un o’r tu yma ar fin yr afon, ac un arall o’r tu arall ar fin yr afon. 6Ac un a ddywedodd wrth yr hwn a wisgasid â #Pen 10:5lliain, yr hwn ydoedd #12:6 Heb. oddi ar.ar ddyfroedd yr afon, Pa hyd fydd hyd ddiwedd y rhyfeddodau hyn? 7#Dat 10:5, 6Clywais hefyd y gŵr, a wisgasid â lliain, yr hwn ydoedd ar ddyfroedd yr afon, pan ddyrchafodd efe ei law ddeau a’i aswy tua’r nefoedd, ac y tyngodd i’r hwn sydd yn byw yn dragywydd, #Pen 7:25; Dat 12:14 y bydd dros amser, amserau, a #12:7 Neu, rhan.hanner: ac wedi darfod gwasgaru nerth y bobl sanctaidd, y gorffennir hyn oll. 8Yna y clywais, ond ni ddeellais: eithr dywedais, O fy arglwydd, beth fydd diwedd y pethau hyn? 9Ac efe a ddywedodd, Dos, Daniel: canys caewyd a #ad. 4seliwyd y geiriau hyd amser y diwedd. 10#Pen 11:35; Sech 13:9Llawer a burir, ac a gennir, ac a brofir; eithr y rhai drygionus a wnânt ddrygioni: ac ni ddeall yr un o’r rhai drygionus; ond #Pen 11:33, 35y rhai doethion a ddeallant. 11Ac o’r amser y tynner ymaith #Pen 8:11y gwastadol aberth, #12:11 Heb. i ddodi y ffieidd‐dra, &cac y gosoder i fyny #Pen 11:31y ffieidd‐dra #12:11 Neu, a bair synnu.anrheithiol, y bydd mil dau cant a deg a phedwar ugain o ddyddiau. 12Gwyn ei fyd a ddisgwylio, ac a ddêl hyd y mil tri chant a phymtheg ar hugain o ddyddiau. 13Dos dithau hyd y diwedd: #12:13 Neu, a gorffwysi.canys gorffwysi, a sefi yn dy ran yn niwedd y dyddiau.

Dewis Presennol:

Daniel 12: BWM1955C

Uwcholeuo

Copi

Cymharu

Rhanna

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda