Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Eseciel 47

47
1 Gweledigaeth y dyfroedd sanctaidd: 6 a’u rhinwedd. 13 Terfynau y wlad; 22 a’i rhannu wrth goelbren.
1Ac efe a’m dug i drachefn i ddrws y tŷ; ac wele #Joel 3:18; Sech 13:1; 14:8; Dat 22:1ddwfr yn dyfod allan oddi tan riniog y tŷ tua’r dwyrain: oherwydd wyneb y tŷ oedd tua’r dwyrain; a’r dyfroedd oedd yn disgyn oddi tanodd o ystlys deau y tŷ, o du y deau i’r allor. 2Ac efe a’m dug i ar hyd ffordd y porth tua’r gogledd, ac a wnaeth i mi amgylchu y ffordd oddi allan hyd y porth nesaf allan ar hyd y ffordd sydd yn edrych tua’r dwyrain; ac wele ddyfroedd yn tarddu ar yr ystlys deau. 3A phan aeth y gŵr yr hwn oedd â’r llinyn yn ei law allan tua’r dwyrain, efe a fesurodd fil o gufyddau, ac a’m tywysodd i trwy y dyfroedd; #47:3 Heb. dyfroedd y fferau. a’r dyfroedd hyd y fferau. 4Ac efe a fesurodd fil eraill, ac a’m tywysodd trwy y dyfroedd; a’r dyfroedd hyd y gliniau: ac a fesurodd fil eraill, ac a’m tywysodd trwodd; a’r dyfroedd hyd y lwynau: 5Ac efe a fesurodd fil eraill; ac afon oedd, yr hon ni allwn fyned trwyddi: canys codasai y dyfroedd yn ddyfroedd #47:5 Heb. nofio.nofiadwy, yn afon ni ellid myned trwyddi.
6Ac efe a ddywedodd wrthyf, A welaist ti hyn, fab dyn? Yna y’m tywysodd, ac y’m dychwelodd hyd lan yr afon. 7Ac wedi i mi ddychwelyd, wele #Dat 22:2ar fin yr afon goed lawer iawn o’r tu yma ac o’r tu acw. 8Ac efe a ddywedodd wrthyf, Y dyfroedd hyn sydd yn myned allan tua bro y dwyrain, ac a ddisgynnant i’r #47:8 Neu, anialwch. Edrych Deut 3:17; 4:49; Jos 3:16gwastad, ac a ânt i’r môr: ac wedi eu myned i’r môr, yr iacheir y dyfroedd. 9A bydd i bob peth byw, yr hwn a ymlusgo, pa le bynnag y delo yr #47:9 Heb. ddwy afon.afonydd, gael byw: ac fe fydd pysgod lawer iawn, oherwydd dyfod y dyfroedd hyn yno: canys iacheir hwynt, a phob dim lle y delo yr afon fydd byw. 10A bydd i’r pysgodwyr sefyll arni, o En‐gedi hyd En‐eglaim; hwy a fyddant yn daenfa rhwydau: eu pysgod fydd yn ôl eu rhyw, fel pysgod #Num 34:6y môr mawr, yn llawer iawn. 11Ei lleoedd lleidiog a’i chorsydd #47:11 Neu, a’r hyn ni iacheir.ni iacheir; i halen y rhoddir hwynt. 12Ac wrth yr afon y cyfyd, ar ei min o’r ddeutu, bob pren ymborth; #Job 8:16; Salm 1:3; Jer 17:8ei ddalen ni syrth, a’i ffrwyth ni dderfydd: yn ei fisoedd y dwg ffrwyth #47:12 Neu, arbennig.newydd; oherwydd ei ddyfroedd, hwy a ddaethant allan o’r cysegr: am hynny y bydd ei ffrwyth yn ymborth, a’i #Dat 22:2ddalen #47:12 Neu, i ysictod, neu, ddoluriau.yn feddyginiaeth.
13Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Dyma y terfyn wrth yr hwn y rhennwch y tir yn etifeddiaeth i ddeuddeg llwyth Israel: #Gen 48:5; 1 Cron 5:1; Pen 48:4, 5Joseff a gaiff ddwy o rannau. 14Hefyd chwi a’i hetifeddwch ef, bob un cystal â’i gilydd; am yr hwn y #Gen 15:7; 17:8; 26:3; 28:13#47:14 Heb. codais fy llaw.tyngais ar ei roddi i’ch tadau: a’r tir hwn a syrth i chwi yn etifeddiaeth. 15A dyma derfyn y tir o du y gogledd, o’r môr mawr tua Hethlon, ffordd yr eir i Sedad: 16Hannath, Berotha, Sibraim, yr hwn sydd rhwng terfyn Damascus a therfyn Hamath: #47:16 Neu, canol y dref.Hasar‐hattichon, yr hwn sydd ar derfyn Hauran. 17A’r terfyn o’r môr fydd #Pen 48:1Hasarenan, terfyn Damascus, a’r gogledd tua’r gogledd, a therfyn Hamath. A dyma du y gogledd. 18Ac ystlys y dwyrain a fesurwch o Hauran, ac #47:18 Heb. oddi rhwng Damascus.o Damascus, ac o Gilead, ac o dir Israel wrth yr Iorddonen, o’r terfyn hyd fôr y dwyrain. A dyma du y dwyrain. 19A’r ystlys deau tua’r deau, o Tamar hyd ddyfroedd #47:19 Neu, Meriba yn Cades.cynnen Cades, #47:19 Neu, y dyffryn.yr afon hyd y môr mawr. A dyma yr ystlys ddeau tua #47:19 Neu, y dehau.Theman. 20A thu y gorllewin fydd y môr mawr, o’r terfyn hyd oni ddeler ar gyfer Hamath. Dyma du y gorllewin. 21Felly y rhennwch y tir hwn i chwi, yn ôl llwythau Israel.
22Bydd hefyd i chwi ei rannu ef wrth goelbren yn etifeddiaeth i chwi, ac i’r dieithriaid a ymdeithiant yn eich mysg, y rhai a genhedla blant yn eich plith: a byddant i chwi fel un wedi ei eni yn y wlad ymysg meibion Israel; gyda chwi y cânt etifeddiaeth ymysg llwythau Israel. 23A bydd, ym mha lwyth bynnag yr ymdeithio y dieithr, yno y rhoddwch ei etifeddiaeth ef, medd yr Arglwydd Dduw.

Dewis Presennol:

Eseciel 47: BWM1955C

Uwcholeuo

Copi

Cymharu

Rhanna

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda