Eseciel 43
43
1 Gogoniant Duw yn dychwelyd i’r deml. 7 Pechod Israel yn rhwystro presenoldeb Duw. 10 Y proffwyd yn eu hannog hwy i edifarhau, ac i gadw cyfraith y tŷ. 13 Mesurau 18 a defodau yr allor.
1Ac efe a’m dug i’r porth, sef y porth sydd yn edrych tua’r dwyrain. 2Ac wele ogoniant Duw Israel yn dyfod o ffordd y dwyrain; #Pen 1:24; Dat 1:15; 14:2; 19:1, 6a’i lais fel sŵn dyfroedd lawer, a’r ddaear yn disgleirio o’i ogoniant ef. 3Ac yr oedd #Pen 1:4; 8:4yn ôl gwelediad y weledigaeth a welais, sef yn ôl y weledigaeth a welais pan ddeuthum #Felly Jer 1:10#43:3 Neu, i broffwydo y difethid y ddinas: Gwel pen 9:1, 5i ddifetha y ddinas: a’r gweledigaethau oedd fel y weledigaeth a welswn wrth afon Chebar: yna y syrthiais ar fy wyneb. 4A gogoniant yr Arglwydd a ddaeth i’r tŷ ar hyd ffordd y porth sydd â’i wyneb tua’r dwyrain. 5Felly yr ysbryd a’m cododd, ac a’m dug i’r cyntedd nesaf i mewn; ac wele, #1 Bren 8:10, 11llanwasai gogoniant yr Arglwydd y tŷ. 6Clywn ef hefyd yn llefaru wrthyf o’r tŷ; ac yr oedd y gŵr yn sefyll yn fy ymyl.
7Ac efe a ddywedodd wrthyf, Ha fab dyn, dyma le fy ngorseddfa, a #1 Cron 28:2lle gwadnau fy nhraed, lle y trigaf ymysg meibion Israel yn dragywydd; a’m henw sanctaidd ni haloga tŷ Israel mwy, na hwynt‐hwy, na’u brenhinoedd, trwy eu puteindra, na thrwy #Lef 26:30; Jer 16:18gyrff meirw eu brenhinoedd yn eu huchel leoedd. 8#Edrych 2 Bren 16:14; 21:7; Pen 8:3; 23:39; 44:7Wrth osod eu rhiniog wrth fy rhiniog i, a’u gorsin wrth fy ngorsin i, #43:8 Neu, canys nid oedd ond pared rhyngof, &ca phared rhyngof fi a hwynt, hwy a halogasant fy enw sanctaidd â’u ffieidd‐dra y rhai a wnaethant: am hynny mi a’u hysais hwy yn fy llid. 9Pellhânt yr awr hon eu puteindra, a chelanedd eu brenhinoedd oddi wrthyf fi, a mi a drigaf yn eu mysg hwy yn dragywydd.
10Ti fab dyn, dangos y tŷ i dŷ Israel, fel y cywilyddiont am eu hanwireddau; a mesurant #43:10 Neu, y swm, neu, y rhifedi.y portread. 11Ac os cywilyddiant am yr hyn oll a wnaethant, hysbysa iddynt ddull y tŷ, a’i osodiad, a’i fynediadau allan, a’i ddyfodiadau i mewn, a’i holl ddull, a’i holl ddeddfau, a’i holl ddull, a’i holl gyfreithiau; ac ysgrifenna o flaen eu llygaid hwynt, fel y cadwont ei holl ddull ef, a’i holl ddeddfau, ac y gwnelont hwynt. 12Dyma gyfraith y tŷ; Ar ben y mynydd y bydd ei holl derfyn ef, yn gysegr sancteiddiolaf o amgylch ogylch. Wele, dyma gyfraith y tŷ.
13A dyma fesurau yr allor wrth gufyddau. #Pen 40:5; 41:8Y cufydd sydd gufydd a dyrnfedd; #43:13 Heb. y fynwes.y gwaelod fydd yn gufydd, a’r lled yn gufydd, a’i hymylwaith ar ei min o amgylch fydd yn rhychwant: a dyma le uchaf yr allor. 14Ac o’r gwaelod ar y llawr, hyd yr ystôl isaf, y bydd dau gufydd, ac un cufydd o led; a phedwar cufydd o’r ystôl leiaf hyd yr ystôl fwyaf, a chufydd o led. 15Felly yr #43:15 Heb. Harel, sef, mynydd Duw.allor fydd bedwar cufydd; ac o’r #43:15 Heb. Ariel, sef, llew Duw. Esa 29:1allor y bydd hefyd tuag i fyny bedwar o gyrn. 16A’r allor fydd ddeuddeg cufydd o hyd, a deuddeg o led, yn ysgwâr yn ei phedwar ystlys. 17A’r ystôl fydd bedwar cufydd ar ddeg o hyd, a phedwar ar ddeg o led, yn ei phedwar ystlys; a’r ymylwaith o amgylch iddi yn hanner cufydd; a’i gwaelod yn gufydd o amgylch: #Edrych Exod 20:26a’i grisiau yn edrych tua’r dwyrain.
18Ac efe a ddywedodd wrthyf, Ha fab dyn, fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Dyma ddeddfau yr allor, yn y dydd y gwneler hi, i boethoffrymu poethoffrwm arni, ac i daenellu gwaed arni. 19Yna y rhoddi at yr offeiriaid y Lefiaid, (y rhai sydd o had Sadoc yn nesáu ataf fi, medd yr Arglwydd Dduw, i’m gwasanaethu,) fustach ieuanc #Exod 29:36; Lef 8:14, 15yn bech‐aberth. 20A chymer o’i waed ef, a dyro ar ei phedwar corn hi, ac ar bedair congl yr ystôl, ac ar yr ymyl o amgylch: fel hyn y glanhei ac y cysegri hi. 21Cymeri hefyd fustach y pech‐aberth, ac efe a’i llysg ef yn y lle nodedig i’r tŷ, o’r tu allan i’r cysegr. 22Ac ar yr ail ddydd ti a offrymi fwch geifr perffaith‐gwbl yn bech‐aberth; a hwy a lanhânt yr allor, megis y glanhasant hi â’r bustach. 23Pan orffennych ei glanhau, ti a offrymi fustach ieuanc perffaith‐gwbl, a hwrdd perffaith‐gwbl o’r praidd. 24Ac o flaen yr Arglwydd yr offrymi hwynt; a’r offeiriaid #Lef 2:13a fwriant halen arnynt, ac a’u hoffrymant hwy yn boethoffrwm i’r Arglwydd. 25Saith niwrnod y darperi fwch yn bech‐aberth bob dydd; darparant hefyd fustach ieuanc, a hwrdd o’r praidd, o rai perffaith‐gwbl. 26Saith niwrnod y cysegrant yr allor, ac y glanhânt hi, ac #43:26 Heb. y llanwant eu dwylaw.yr ymgysegrant. 27A phan ddarffo y dyddiau hyn, bydd ar yr wythfed dydd, ac o hynny allan, i’r offeiriaid offrymu ar yr allor eich poethoffrymau a’ch ebyrth #43:27 Neu, diolch.hedd: a mi a fyddaf fodlon i chwi, medd yr Arglwydd Dduw.
Dewis Presennol:
Eseciel 43: BWM1955C
Uwcholeuo
Copi
Cymharu
Rhanna
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan gyda chroesgyfeiriadau © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible with cross-references © 1955 British and Foreign Bible Society