Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Effesiaid 6

6
A.D. 64. —
1 Dyletswydd plant tuag at eu rhieni, 5 a gweision tuag at eu harglwyddi. 10 Mai milwriaeth yw ein bywyd ni, 12 nid yn unig yn erbyn cig a gwaed, eithr hefyd yn erbyn gelynion ysbrydol. 13 Cyflawn arfogaeth Cristion, 18 a’r modd yr arferir hi. 21 Canmol Tychicus.
1 # Col 3:20 Y plant, ufuddhewch i’ch rhieni yn yr Arglwydd: canys hyn sydd gyfiawn. 2#Exod 20:12; Deut 5:16; 27:16; Mat 15:4; Marc 7:10Anrhydedda dy dad a’th fam, (yr hwn yw’r gorchymyn cyntaf mewn addewid;) 3Fel y byddo yn dda i ti, ac fel y byddech hir‐hoedlog ar y ddaear. 4A #Col 3:21chwithau dadau, na yrrwch eich plant i ddigio; ond #Deut 6:7, 20; Salm 78:4; Diar 19:18maethwch hwynt yn addysg #6:4 a rhybudd.ac athrawiaeth yr Arglwydd. 5#Col 3:22; 1 Tim 6:1; Titus 2:9; 1 Pedr 2:18Y gweision, ufuddhewch i’r rhai sydd arglwyddi i chwi yn ôl y cnawd, gydag ofn a dychryn, yn symlrwydd eich calon, megis i Grist; 6Nid â golwg‐wasanaeth, fel bodlonwyr dynion, ond fel gweision Crist, yn gwneuthur ewyllys Duw o’r galon; 7Trwy ewyllys da yn gwneuthur gwasanaeth, megis i’r Arglwydd, ac nid i ddynion: 8#Job 34:11Gan wybod mai pa ddaioni bynnag a wnelo pob un, hynny a dderbyn efe gan yr Arglwydd, pa un bynnag ai caeth ai rhydd fyddo. 9A chwithau #Col 4:1feistriaid, gwnewch yr un pethau tuag atynt hwy, gan roddi bygwth heibio: gan wybod fod eich Arglwydd #6:9 chwithau hefyd.chwi a hwythau yn y nefoedd; ac #6:9 nad.#Rhuf 2:11; Col 3:25nid oes derbyn wyneb gydag ef. 10Heblaw hyn, fy mrodyr, ymnerthwch yn yr Arglwydd, ac #Pen 1:19; 3:16yng nghadernid ei allu ef. 11#Rhuf 13:12; 2 Cor 6:7; 1 Thess 5:8Gwisgwch holl arfogaeth Duw, fel y galloch sefyll yn erbyn cynllwynion diafol. 12Oblegid nid yw ein hymdrech ni yn erbyn gwaed a chnawd, ond yn erbyn tywysogaethau, yn erbyn awdurdodau, yn erbyn #Ioan 12:31; 14:30; Col 1:13bydol lywiawdwyr tywyllwch y byd hwn, yn erbyn #6:12 ysbrydion drwg.drygau ysbrydol yn y nefolion #6:12 bethau. leoedd. 13Am hynny cymerwch atoch holl arfogaeth Duw, fel y galloch wrthsefyll yn y dydd drwg; ac wedi #6:13 gorchfygu.gorffen pob peth, sefyll. 14Sefwch gan hynny, #Esa 11:5; Luc 12:35wedi amgylchwregysu eich lwynau â gwirionedd, a #Esa 59:17; 2 Cor 6:7; 1 Thess 5:8gwisgo dwyfronneg cyfiawnder; 15A gwisgo am eich traed esgidiau paratoad efengyl tangnefedd: 16#6:16 Heblaw, neu, Ym mhob peth.Uwchlaw pob dim, wedi cymryd #1 Ioan 5:4tarian y ffydd, â’r hon y gellwch ddiffoddi holl bicellau tanllyd y #6:16 drwg.fall. 17#Ad. 14Cymerwch hefyd helm yr iachawdwriaeth, a #Heb 4:12; Dat 1:16chleddyf yr Ysbryd, yr hwn yw gair Duw: 18#Rhuf 12:12; Col 4:2; 1 Thess 5:17Gan weddïo bob amser â phob rhyw weddi a deisyfiad yn yr Ysbryd, a #Marc 13:33bod yn wyliadwrus at hyn yma, trwy bob dyfalbara, a deisyfiad dros yr holl saint; 19#Act 4:19; Col 4:3; 2 Thess 3:1A throsof finnau, fel y rhodder i mi ymadrodd, trwy agoryd fy ngenau #2 Cor 3:12yn hy, i hysbysu dirgelwch yr efengyl; 20Dros yr hon #2 Cor 5:20yr wyf yn gennad #Act 28:20; Pen 3:1mewn #6:20 rhwymau.cadwyn: fel y traethwyf yn hy #6:20 ynddi fel.amdani, fel y perthyn imi draethu. 21Ond #Col 4:7fel y gwypoch chwithau hefyd fy helynt, beth yr wyf yn ei wneuthur, #2 Tim 4:12; Titus 3:12Tychicus, y brawd annwyl a’r gweinidog ffyddlon yn yr Arglwydd, a hysbysa i chwi bob peth: 22Yr hwn a anfonais atoch er mwyn hyn yma; fel y caech wybod ein helynt ni, ac fel y diddanai efe eich calonnau chwi. 23Tangnefedd i’r brodyr, a chariad gyda ffydd, oddi wrth Dduw Dad, a’r Arglwydd Iesu Grist. 24Gras fyddo gyda phawb sydd yn caru ein Harglwydd Iesu Grist mewn #6:24 anllygredigaeth.purdeb. Amen.
At yr Effesiaid yr ysgrifennwyd o Rufain, gyda Thychicus.

Dewis Presennol:

Effesiaid 6: BWM1955C

Uwcholeuo

Copi

Cymharu

Rhanna

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda