Logo YouVersion
Eicon Chwilio

2 Thesaloniaid 1

1
A.D. 54. —
1 Y mae Paul yn hysbysu iddynt mor dda yr oedd efe yn meddwl am eu ffydd, a’u cariad, a’u hamynedd hwynt: 11 a chyda hynny yn gosod llawer o resymau ar lawr, i’w cysuro hwy mewn erlid; a’r pennaf o’r rhai hyn a gymerir oddi wrth gyfiawn farn Duw.
1Paul, a Silfanus, a Thimotheus, at eglwys y Thesaloniaid, #1 Thess 1:1yn Nuw ein Tad, a’r Arglwydd Iesu Grist: 2#1 Cor 1:3Gras i chwi, a thangnefedd, oddi wrth Dduw ein Tad ni, a’r Arglwydd Iesu Grist. 3#1 Thess 1:2, 3; Pen 2:13Diolch a ddylem i Dduw yn wastadol drosoch, frodyr, fel y mae yn addas, oblegid bod eich ffydd chwi yn mawr gynyddu, a chariad pob un ohonoch oll tuag at eich gilydd yn ychwanegu; 4Hyd onid ydym #2 Cor 7:14; 9:2; 1 Thess 2:19ni ein hunain yn #1:4 ymffrostio.gorfoleddu ynoch chwi yn eglwysi Duw, oherwydd eich amynedd chwi a’ch ffydd yn eich holl erlidiau a’r gorthrymderau yr ydych yn eu goddef: 5Yr hyn sydd #Phil 1:28argoel golau o gyfiawn farn Duw, fel y’ch cyfrifer yn deilwng i deyrnas Dduw, #1 Thess 2:14er mwyn yr hon yr ydych hefyd yn goddef. 6Canys cyfiawn yw gerbron Duw, dalu cystudd i’r rhai sydd yn eich cystuddio chwi; 7Ac i chwithau, y rhai a gystuddir, esmwythdra gyda ni, #1 Thess 4:16; Jwdas 14yn ymddangosiad yr Arglwydd Iesu o’r nef, #1:7 gydag angylion ei nerth.gyda’i angylion nerthol, 8#1:8 Mewn tân.#2 Pedr 3:7A thân fflamllyd, #1:8 yn cymryd dial ar y sawl.gan roddi dial i’r sawl nid adwaenant Dduw, ac #Rhuf 2:8nid ydynt yn ufuddhau i efengyl ein Harglwydd Iesu Grist: 9Y rhai a ddioddefant yn gosbedigaeth, ddinistr tragwyddol oddi gerbron yr Arglwydd, ac oddi wrth ogoniant ei gadernid ef; 10Pan ddêl efe i’w ogoneddu yn ei saint, ac i fod yn rhyfeddol yn y rhai oll sydd yn credu, (oherwydd i’n tystiolaeth ni yn eich mysg chwi gael ei chredu,) yn y dydd hwnnw. 11Am ba achos yr ydym hefyd yn gweddïo yn wastadol drosoch, ar fod i’n Duw ni eich cyfrif chwi’n deilwng o’r alwedigaeth hon, a chyflawni holl fodlonrwydd #1:11 i ddaioni. ei ddaioni, a gwaith ffydd, yn nerthol: 12Fel y gogonedder enw ein Harglwydd Iesu Grist ynoch chwi, a chwithau ynddo yntau, yn ôl gras ein Duw ni, a’r Arglwydd Iesu Grist.

Uwcholeuo

Copi

Cymharu

Rhanna

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda