2 Pedr 2
2
A.D. 66. —
1 Y mae yn proffwydo am athrawon ffals; ac yn dangos eu hanwiredd a’u dialedd hwy a’u dilynwyr: 7 oddi wrth y rhai y gwaredir y rhai duwiol, fel y gwaredwyd Lot o Sodom. 10 Y mae yn dangos yn helaethach gyneddfau y twyllwyr hynny, fel y galler eu hadnabod yn haws, a’u gochelyd.
1Eithr #Deut 13:1bu gau broffwydi hefyd ymhlith y bobl, megis ag #Mat 24:11; Act 20:30; 1 Cor 11:19; 1 Tim 4:1; 2 Tim 3:1, 5; Jwdas 18y bydd gau athrawon yn eich plith chwithau; y rhai yn ddirgel a ddygant i mewn heresïau dinistriol, a #Jwdas 4chan wadu’r Arglwydd #Heb 10:29yr hwn a’u prynodd hwynt, ydynt yn tynnu arnynt eu hunain ddinistr buan. 2A llawer a ganlynant eu #2:2 Neu, trythyllwch.distryw hwynt, oherwydd y rhai y ceblir ffordd y gwirionedd. 3Ac #2 Cor 12:17, 18; 1 Tim 6:5; Titus 1:11mewn cybydd‐dod, trwy chwedlau gwneuthur, y gwnânt farsiandïaeth ohonoch: #Deut 32:35barnedigaeth y rhai er ys talm nid yw segur, a’u colledigaeth hwy nid yw yn hepian. 4Canys #Job 4:18; Jwdas 6onid arbedodd Duw yr angylion #Ioan 8:44; 1 Ioan 3:8a bechasent, eithr #Luc 8:31 eu taflu hwynt i uffern, a’u rhoddi i gadwynau tywyllwch, i’w cadw i farnedigaeth; 5Ac onid arbedodd efe yr hen fyd, eithr #Gen 7:1, 7, 23; 1 Pedr 3:20Noe, pregethwr cyfiawnder, a gadwodd efe ar ei wythfed, pan ddug efe y dilyw ar fyd y rhai anwir; 6A #Gen 19:24; Jwdas 7chan droi dinasoedd Sodom a Gomorra yn lludw, a’u #2:6 barnodd.damniodd hwy â dymchweliad, #Num 26:10gan eu gosod yn esiampl i’r rhai a fyddent yn annuwiol; 7Ac #Gen 19:16a waredodd Lot gyfiawn, yr hwn oedd mewn gofid trwy anniwair ymarweddiad yr anwiriaid: 8(Canys y cyfiawn hwnnw yn trigo yn eu mysg hwynt, #Salm 119:158; Esec 9:4yn gweled ac yn clywed, ydoedd yn poeni ei enaid cyfiawn o ddydd i ddydd trwy eu hanghyfreithlon weithredoedd hwynt:) 9#1 Cor 10:13Yr Arglwydd a fedr wared y rhai duwiol rhag profedigaeth, a chadw y rhai anghyfiawn i ddydd y farn i’w poeni: 10Ac yn bennaf #Jwdas 4, 7, 8, 10, 16y rhai sydd yn rhodio ar ôl y cnawd mewn chwant aflendid, ac yn diystyru #2:10 arglwyddiaeth.llywodraeth. Rhyfygus ydynt, cyndyn; nid ydynt yn arswydo cablu urddas: 11Lle nid yw’r #Jwdas 9angylion, y rhai sydd fwy mewn gallu a nerth, yn rhoddi cablaidd farn yn eu herbyn #2:11 eu hunain.hwynt gerbron yr Arglwydd. 12Eithr y rhai hyn, #Jer 12:3; Jwdas 10megis anifeiliaid anrhesymol anianol, y rhai a wnaed i’w dal ac i’w difetha, a gablant y pethau ni wyddant oddi wrthynt, ac a ddifethir yn eu llygredigaeth eu hunain; 13Ac a dderbyniant gyflog anghyfiawnder, a hwy yn cyfrif moethau #2:13 Gr. yn y, neu, trwy y dydd.beunydd yn hyfrydwch. #Jwdas 12Brychau a meflau ydynt, yn ymddigrifo yn eu twyll eu hunain, #1 Cor 11:20, 21gan wledda gyda chwi; 14A llygaid ganddynt yn llawn #2:14 Gr. o’r odinebwraig.godineb, ac heb fedru peidio â phechod; yn llithio eneidiau anwadal: a chanddynt galon wedi ymgynefino â chybydd‐dra; plant y felltith: 15Wedi gadael y ffordd union, hwy a aethant ar gyfeiliorn, gan ganlyn ffordd #Num 22:5, 23, 28; Jwdas 11Balaam mab Bosor, yr hwn a garodd wobr anghyfiawnder; 16Ond efe a gafodd gerydd am ei gamwedd: asen fud arferol â’r iau, gan #2:16 lefaru.ddywedyd â llef ddynol, a waharddodd ynfydrwydd y proffwyd. 17#Jwdas 12, 13Y rhai hyn ydynt ffynhonnau di‐ddwfr, cymylau a yrrid gan dymestl; i’r rhai y mae niwl tywyllwch yng nghadw yn dragywydd. 18Canys #Jwdas 16gan ddywedyd chwyddedig eiriau gorwagedd, y maent hwy, trwy chwantau’r cnawd, a thrythyllwch, yn llithio’r rhai #Act 2:40a ddianghasai #2:18 dros ennyd.yn gwbl oddi wrth y rhai sydd yn byw ar gyfeiliorn. 19Gan addo #1 Pedr 2:16rhyddid iddynt, a hwythau eu hunain #Ioan 8:34; Rhuf 6:16yn wasanaethwyr llygredigaeth: canys gan bwy bynnag y gorchfygwyd neb, i hwnnw hefyd yr aeth efe yn gaeth. 20Canys #Mat 12:45; Heb 6:4; 10:26os, wedi iddynt #Pen 1:4ddianc oddi wrth halogedigaeth y byd, trwy adnabyddiaeth yr Arglwydd a’r Achubwr Iesu Grist, y rhwystrir hwy drachefn â’r pethau hyn, a’u gorchfygu; aeth diwedd y rhai hynny yn waeth na’u dechreuad. 21Canys #Luc 12:47, 48gwell fuasai iddynt fod heb adnabod ffordd cyfiawnder, nag, wedi ei hadnabod, troi oddi wrth y gorchymyn sanctaidd yr hwn a draddodwyd iddynt. 22Eithr digwyddodd iddynt yn ôl y wir ddihareb, #Diar 26:11Y ci a ymchwelodd at ei chwydiad ei hun; a’r hwch wedi ei golchi, i’w hymdreiglfa yn y dom.
Dewis Presennol:
2 Pedr 2: BWM1955C
Uwcholeuo
Copi
Cymharu
Rhanna
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan gyda chroesgyfeiriadau © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible with cross-references © 1955 British and Foreign Bible Society