2 Pedr 1
1
A.D. 66. —
1 Y mae efe yn eu cadarnhau mewn gobaith o gynnydd gras Duw; 5 ac yn eu hannog i wneuthur eu galwedigaeth yn sicr trwy ffydd a gweithredoedd. 12 Y mae yn ofalus i ddwyn hynny ar gof iddynt, gan wybod fod ei farwolaeth ef ei hun yn agos. 16 Y mae yn eu rhybuddio hwy i fod yn ddianwadal yn ffydd Crist, gwir Fab Duw, trwy dystiolaeth yr apostolion a welsant ei ogoniant ef, a thrwy dystiolaeth y Tad, a’r proffwydi.
1Simon Pedr, gwasanaethwr ac apostol Iesu Grist, at y rhai a gawsant #Rhuf 1:12; 2 Cor 4:13; Titus 1:4gyffelyb werthfawr ffydd â ninnau, trwy gyfiawnder ein Duw #1:1 ac Achubwr.ni, a’n Hachubwr Iesu Grist: 2#1 Pedr 1:2; Jwdas 2Gras i chwi a thangnefedd a amlhaer, trwy adnabod Duw, a Iesu ein Harglwydd ni, 3Megis y rhoddes ei dduwiol allu ef i ni bob peth a berthyn i fywyd a duwioldeb, #Ioan 17:3; 1 Pedr 2:9trwy ei adnabod ef yr hwn a’n galwodd ni #1:3 trwy.i ogoniant a rhinwedd: 4Trwy’r hyn y rhoddwyd i ni addewidion mawr iawn a gwerthfawr; fel trwy’r rhai hyn y byddech #2 Cor 3:18; Eff 4:24; Heb 12:10; 1 Ioan 3:2gyfranogion o’r duwiol anian, #Pen 2:18, 20wedi dianc oddi wrth y llygredigaeth sydd yn y byd trwy drachwant. 5A hyn yma hefyd, gan roddi cwbl ddiwydrwydd, chwanegwch #1:5 yn.at eich ffydd, rinwedd; ac #1:5 mewn rhinwedd.at rinwedd, wybodaeth; 6Ac #1:6 mewn gwybodaeth.at wybodaeth, gymedrolder; ac #1:6 mewn cymedrolder.at gymedrolder, amynedd; ac #1:6 mewn.at amynedd, dduwioldeb; 7Ac at dduwioldeb, garedigrwydd brawdol; ac #Gal 6:10; 1 Thess 3:12; 5:15at garedigrwydd brawdol, gariad. 8Canys os yw’r pethau hyn gennych, ac yn #1:8 helaeth.aml hwynt, y maent yn peri na byddoch na segur #Titus 3:14na diffrwyth yng ngwybodaeth ein Harglwydd Iesu Grist. 9Oblegid yr hwn nid yw’r rhai hyn ganddo, #1 Ioan 2:9, 11dall ydyw, heb weled ymhell, wedi gollwng dros gof ei lanhau oddi wrth ei bechodau gynt. 10Oherwydd paham yn hytrach, frodyr, byddwch ddiwyd #1 Ioan 3:19i wneuthur eich galwedigaeth a’ch etholedigaeth yn sicr: canys, tra fyddoch yn gwneuthur y pethau hyn, ni lithrwch chwi ddim byth: 11Canys felly yn helaeth y trefnir i chwi fynediad i mewn i dragwyddol deyrnas ein Harglwydd a’n Hachubwr Iesu Grist. 12Oherwydd paham #Rhuf 15:14, 15; 1 Ioan 2:21nid esgeulusaf eich coffáu bob amser am y pethau hyn, er eich bod yn eu gwybod, ac wedi eich sicrhau yn y gwirionedd presennol. 13Eithr yr ydwyf yn tybied fod yn iawn, tra fyddwyf yn #2 Cor 5:1y tabernacl hwn, #Pen 3:1eich cyffroi chwi, trwy ddwyn ar gof i chwi; 14#Deut 4:21, 22; 31:14; 2 Tim 4:6Gan wybod y bydd i mi ar frys roddi fy nhabernacl hwn heibio, megis ag yr hysbysodd #Ioan 21:18, 19ein Harglwydd Iesu Grist i mi. 15Ac mi a wnaf fy ngorau hefyd ar allu ohonoch bob amser, ar ôl fy ymadawiad i, wneuthur coffa am y pethau hyn. 16Canys nid gan ddilyn #1 Cor 1:17; 2:1chwedlau cyfrwys, yr hysbysasom i chwi nerth a dyfodiad ein Harglwydd Iesu Grist, eithr #Mat 17:1, 2; Ioan 1:14; 1 Ioan 1:1; 4:14wedi gweled ei fawredd ef â’n llygaid. 17Canys efe a dderbyniodd gan Dduw Dad barch a gogoniant, pan ddaeth y cyfryw lef ato oddi wrth y mawr‐ragorol Ogoniant, #Mat 3:17; 17:5Hwn yw fy annwyl Fab i, yn yr hwn y’m bodlonwyd. 18A’r llef yma, yr hon a ddaeth o’r nef, a glywsom ni, pan oeddem gydag ef yn #Exod 3:5; Jos 5:15y mynydd sanctaidd. 19Ac y mae gennym air sicrach y proffwydi; yr hwn da y gwnewch fod yn dal arno, megis ar #Salm 119:105; Ioan 5:35gannwyll yn llewyrchu mewn lle tywyll, hyd oni wawrio’r dydd, ac oni chodo’r #Dat 2:28; 22:16seren ddydd yn eich calonnau chwi: 20Gan wybod hyn yn gyntaf, #Rhuf 12:6nad oes un broffwydoliaeth o’r ysgrythur o ddehongliad priod. 21Canys #2 Tim 3:16; 1 Pedr 1:11nid trwy ewyllys dyn y daeth #1:21 un amser.gynt broffwydoliaeth; eithr dynion sanctaidd Duw a lefarasant megis y cynhyrfwyd hwy gan yr Ysbryd Glân.
Dewis Presennol:
2 Pedr 1: BWM1955C
Uwcholeuo
Copi
Cymharu
Rhanna
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan gyda chroesgyfeiriadau © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible with cross-references © 1955 British and Foreign Bible Society