Logo YouVersion
Eicon Chwilio

1 Timotheus 2

2
A.D. 65. —
1 Bod yn iawn gweddïo a diolch dros bob dyn. 9 Pa fodd y dylai gwragedd ymdrwsio; 12 nad ydys yn caniatáu iddynt na dysgu, na bod yn ben: 15 y byddant hwy gadwedig, er bod ynddynt arwydd o ddigofaint Duw, wrth ddwyn plant i’r byd, os hwy a arhosant yn y ffydd.
1 # 2:1 Atolwg Cynghori yr ydwyf am hynny, ymlaen pob peth, fod ymbiliau, gweddïau, deisyfiadau, a thalu diolch, dros bob dyn; 2#Jer 29:7Dros frenhinoedd, a phawb sydd mewn #2:2 Neu, awdurdodgoruchafiaeth; fel y gallom ni fyw yn llonydd ac yn heddychol mewn pob duwioldeb ac onestrwydd. 3Canys hyn sydd dda a chymeradwy gerbron Duw ein Ceidwad; 4#2 Pedr 3:9Yr hwn sydd yn ewyllysio bod pob dyn yn gadwedig, a’u dyfod i wybodaeth y gwirionedd. 5Canys #Ioan 17:3; Rhuf 3:29; 10:12un Duw sydd, ac #Heb 9:15un cyfryngwr hefyd rhwng Duw a dynion, y dyn Crist Iesu; 6#Mat 20:28Yr hwn a’i rhoddes ei hunan yn bridwerth dros bawb,#2:6 yn dystiolaeth #1 Cor 1:6; 2 Thess 1:10i’w dystiolaethu #Eff 1:9; 3:5yn yr amseroedd priod. 7#2 Tim 1:11I’r hyn y’m gosodwyd i yn bregethwr, ac yn apostol, (#Rhuf 9:1y gwir yr wyf yn ei ddywedyd yng Nghrist, nid wyf yn dywedyd celwydd;) #Rhuf 11:13; 15:16; Gal 1:16yn athro’r Cenhedloedd mewn ffydd a gwirionedd. 8Am hynny yr wyf yn ewyllysio i’r gwŷr weddïo #Mal 1:11; Ioan 4:21ym mhob man, #Esa 1:15gan ddyrchafu dwylo sanctaidd, heb na dicter #2:8 nac amauna dadl. 9Yr un modd hefyd, bod #1 Pedr 3:3i’r gwragedd eu trefnu eu hunain mewn dillad gweddus, gyda gwylder a sobrwydd; nid â gwallt plethedig, neu aur, neu emau, neu ddillad gwerthfawr; 10Ond, (yr hyn sydd yn gweddu i wragedd a fo yn proffesu duwioldeb,) â gweithredoedd da. 11Dysged gwraig mewn distawrwydd gyda phob gostyngeiddrwydd. 12Ond #1 Cor 14:34nid wyf yn cenhadu i wraig athrawiaethu, #Eff 5:24nac ymawdurdodi ar y gŵr, eithr bod mewn distawrwydd. 13Canys #Gen 1:27; 2:18; 1 Cor 11:8, 9Adda a luniwyd yn gyntaf, yna Efa. 14Ac nid #Gen 3:6; 2 Cor 11:3Adda a dwyllwyd; eithr y wraig, wedi ei thwyllo, oedd yn y camwedd. 15Eto cadwedig fydd #2:15 yn plantawrth ddwyn plant, os arhosant hwy mewn ffydd, a chariad, a sancteiddrwydd, ynghyd â sobrwydd.

Dewis Presennol:

1 Timotheus 2: BWM1955C

Uwcholeuo

Copi

Cymharu

Rhanna

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda