Logo YouVersion
Eicon Chwilio

1 Thesaloniaid 4

4
A.D. 54. —
1 Y mae yn eu hannog i fyned rhagddynt mewn pob math ar dduwioldeb: 6 i fyw yn sanctaidd ac yn gyfiawn; 9 i garu eu gilydd; 11 a thrwy lonyddwch, i wneuthur y pethau a berthyn iddynt eu hunain: 13 ac yn ddiwethaf, i dristáu yn gymedrol dros y meirw. 15 A chyda’r cyngor diwethaf hwn, y mae efe yn cysylltu dosbarth byr o’r atgyfodiad, ac o ail‐ddyfodiad Crist i’r farn.
1Ymhellach gan hynny, frodyr, yr ydym yn atolwg i chwi, ac yn #4:1 annog.deisyf yn yr Arglwydd Iesu, megis y derbyniasoch gennym #Pen 2:12pa fodd y dylech rodio a bodloni Duw, ar i chwi gynyddu fwyfwy. 2Canys chwi a wyddoch pa orchmynion a roddasom i chwi trwy’r Arglwydd Iesu. 3Canys hyn yw #Rhuf 12:2ewyllys Duw, sef eich sancteiddiad chwi, ar ymgadw ohonoch rhag godineb: 4Ar fedru o bob un ohonoch feddiannu ei lestr ei hun mewn sancteiddrwydd a pharch; 5Nid mewn gwŷn trachwant, #Eff 4:17, 18megis y Cenhedloedd #1 Cor 15:34; Eff 4:18y rhai nid adwaenant Dduw: 6#1 Cor 6:7, &cNa byddo i neb orthrymu na thwyllo ei frawd mewn dim: canys dialydd yw’r Arglwydd #4:6 am.ar y rhai hyn oll, megis y dywedasom i chwi o’r blaen, ac y tystiasom. 7Canys ni alwodd Duw nyni i aflendid, ond #Lef 11:44; 19:2i sancteiddrwydd. 8Am hynny #Luc 10:16y neb sydd yn #4:8 gwrthod.dirmygu, nid dyn y mae yn ei ddirmygu, ond Duw, #1 Cor 7:40yr hwn hefyd a roddes ei Ysbryd Glân #4:8 i ni.ynom ni. 9Ond am frawdgarwch, nid rhaid i chwi ysgrifennu ohonof atoch: canys #Jer 31:34; Heb 8:11; 1 Ioan 2:20, 27yr ydych chwi eich hunain wedi eich dysgu gan Dduw #Ioan 13:34; 15:12; Eff 5:2; 1 Pedr 4:8i garu eich gilydd. 10Oblegid yr ydych yn gwneuthur hyn i bawb o’r brodyr y rhai sydd trwy holl Facedonia: ond yr ydym yn atolwg i chwi, frodyr, gynyddu ohonoch fwyfwy; 11A rhoddi ohonoch eich bryd ar fod yn llonydd, a #2 Thess 3:11; 1 Pedr 4:15gwneuthur eich gorchwylion eich hunain, a #2 Thess 3:7, 8, 12gweithio â’ch dwylo eich hunain, (megis y gorchmynasom i chwi;) 12Fel #Col 4:5y rhodioch yn weddaidd tuag at y rhai sydd oddi allan, ac na byddo arnoch eisiau #4:12 neb.dim. 13Ond ni ewyllysiwn, frodyr, i chwi fod heb wybod am y rhai a hunasant, na thristaoch, #Deut 14:1, 2; 2 Sam 12:20megis eraill y rhai nid oes ganddynt obaith. 14Canys #1 Cor 15:13os ydym yn credu farw Iesu, a’i atgyfodi; felly #1 Cor 15:18, 23y rhai a hunasant yn yr Iesu, a ddwg Duw hefyd gydag ef. 15Canys hyn yr ydym yn ei ddywedyd wrthych #1 Bren 13:17, 18; 20:35yng ngair yr Arglwydd, #1 Cor 15:51na bydd i ni’r rhai byw, y rhai a adewir hyd ddyfodiad yr Arglwydd, ragflaenu’r rhai a hunasant. 16Oblegid #Mat 24:31; 2 Thess 1:7yr Arglwydd ei hun a ddisgyn o’r nef gyda #4:16 gawr.bloedd, â llef yr archangel, ac #1 Cor 15:52ag utgorn Duw: a’r meirw yng Nghrist a gyfodant yn gyntaf: 17Yna ninnau’r rhai byw, y rhai a adawyd, a gipir i fyny gyda hwynt #Act 1:9; Dat 11:12yn y cymylau, i gyfarfod â’r Arglwydd yn yr awyr: ac felly #Ioan 12:26; 14:3; 17:24y byddwn yn wastadol gyda’r Arglwydd. 18Am hynny #4:18 cynghorwch.diddenwch eich gilydd â’r ymadroddion hyn.

Uwcholeuo

Copi

Cymharu

Rhanna

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda