Logo YouVersion
Eicon Chwilio

1 Thesaloniaid 2

2
A.D. 54. —
1 Pa fodd y daeth ac y pregethwyd yr efengyl i’r Thessaloniaid; a pha fodd y derbyniasant hwythau hi. 18 Yr achos paham y bu Paul cyhyd yn absennol oddi wrthynt; a phaham yr ydoedd efe mor chwannog i’w gweled hwynt.
1Canys #Pen 1:5, 9chwi eich hunain a wyddoch, frodyr, ein dyfodiad ni i mewn atoch, nad ofer fu: 2Eithr wedi i ni ddioddef o’r blaen, a #Act 16:22chael amarch, fel y gwyddoch chwi, yn Philipi, ni a fuom hy yn ein Duw #Act 17:2i lefaru wrthych chwi efengyl Duw #Phil 1:30; Col 2:1trwy fawr ymdrech. 3Canys ein cyngor ni nid oedd o hudoliaeth nac o aflendid, nac mewn twyll: 4Eithr megis #1 Tim 1:11, 12y’n #2:4 dewiswyd gan Dduw i ymddiried.cyfrifwyd ni gan Dduw yn addas #Gal 2:7; Titus 1:3i ymddiried i ni am yr efengyl, felly yr ydym yn llefaru; #Gal 1:10nid megis yn rhyngu bodd i ddynion, ond i Dduw, yr hwn sydd yn profi ein calonnau ni. 5Oblegid #Act 20:33; 2 Cor 2:17; 7:2; 12:17ni fuom ni un amser mewn ymadrodd gwenieithus, fel y gwyddoch chwi, nac mewn rhith cybydd‐dod; #Rhuf 1:9Duw yn dyst: 6#Ioan 5:41, 44; 12:43Nac yn ceisio moliant gan ddynion, na chennych chwi, na chan eraill; lle #2 Cor 10:1, 2, 10, 11; Philem 1:8–9y gallasem #2:6 gymryd awdurdod.#1 Cor 9:2; 2 Thess 3:8bwyso arnoch, fel apostolion Crist. 7Eithr #1 Cor 2:3; 2 Cor 13:4ni a fuom addfwyn yn eich mysg chwi, megis mamaeth yn maethu ei phlant. 8Felly, gan eich hoffi chwi, ni a welsom yn dda gyfrannu â chwi, nid yn unig efengyl Duw, ond #2 Cor 12:15ein heneidiau ein hunain hefyd, am eich bod yn annwyl gennym. 9Canys cof yw gennych, frodyr, ein llafur a’n lludded ni: canys #Act 20:34; 1 Cor 4:12; 2 Cor 11:9gan weithio nos a dydd, fel na phwysem ar neb ohonoch, ni a bregethasom i chwi efengyl Duw. 10Tystion ydych chwi, a Duw hefyd, #2 Thess 3:7mor sanctaidd, ac mor gyfiawn, a diargyhoedd, yr ymddygasom yn eich mysg chwi y rhai ydych yn credu: 11Megis y gwyddoch y modd y buom yn eich cynghori, ac yn eich cysuro, bob un ohonoch, fel tad ei blant ei hun, 12Ac yn #2:12 tystiolaethu.ymbil, #Eff 4:1; Phil 1:27; Col 1:10; Pen 4:1ar rodio ohonoch yn #2:12 addas.deilwng i Dduw, yr hwn a’ch galwodd chwi i’w deyrnas a’i ogoniant. 13Oblegid hyn yr ydym ninnau hefyd yn diolch i Dduw yn ddi‐baid, oherwydd i chwi, pan dderbyniasoch air Duw, yr hwn a glywsoch gennym ni, ei dderbyn ef #Mat 10:40; Gal 4:14; 2 Pedr 3:2nid fel gair dyn, eithr fel y mae yn wir, yn air Duw, yr hwn hefyd sydd yn nerthol weithio ynoch chwi y rhai sydd yn credu. 14Canys chwychwi, frodyr, a wnaethpwyd yn ddilynwyr i eglwysi Duw, y rhai yn Jwdea sydd yng Nghrist Iesu; oblegid #Act 17:5, 13chwithau a ddioddefasoch y pethau hyn gan eich cyd‐genedl, megis hwythau gan yr Iddewon: 15Y rhai a laddasant yr Arglwydd Iesu, #Mat 23:34, 37; Luc 13:33a’u proffwydi eu hunain, ac a’n #2:15 hymlidiasant.herlidiasant ninnau ymaith; ac ydynt heb ryngu bodd Duw, ac yn erbyn pob dyn; 16#Act 13:50; 14:5, 19; 17:5, 13; 18:12; 19:9Gan warafun i ni lefaru wrth y Cenhedloedd, fel yr iacheid hwy, #Gen 15:16; Mat 23:32i gyflawni eu pechodau hwynt yn wastadol: canys digofaint Duw a ddaeth arnynt hyd yr eithaf. 17A ninnau, frodyr, wedi ein gwneuthur yn amddifaid amdanoch dros ennyd awr, yng ngolwg, nid yng nghalon, a fuom fwy astud i weled eich wyneb chwi mewn awydd mawr. 18Am hynny yr ewyllysiasom ddyfod atoch (myfi Paul, yn ddiau,) unwaith a dwywaith hefyd; eithr #Rhuf 1:13; 15:22Satan a’n lluddiodd ni. 19Canys #2 Cor 1:14; Phil 4:1beth yw ein gobaith ni, neu ein llawenydd, neu goron ein #2:19 gogoniant?gorfoledd? onid chwychwi, gerbron ein Harglwydd Iesu Grist yn ei ddyfodiad ef? 20Canys chwychwi yw ein gogoniant a’n llawenydd ni.

Uwcholeuo

Copi

Cymharu

Rhanna

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda