Logo YouVersion
Eicon Chwilio

1 Corinthiaid 2

2
A.D. 59. —
1 Mae yn dangos fod ei bregeth ef, er nad ydoedd yn dwyn gyda hi odidowgrwydd ymadrodd, 4 neu ddoethineb ddynol: eto yn sefyll mewn 4, 5 nerth Duw; ac yn rhagori cymaint 6 ar ddoethineb y byd yma, 9 a synnwyr dynol, ag nas 14 gall y dyn anianol mo’i deall.
1A myfi, pan ddeuthum atoch, frodyr, #Pen 1:17a ddeuthum nid yn ôl godidowgrwydd ymadrodd neu ddoethineb, gan fynegi i chwi dystiolaeth Duw. 2Canys ni fernais i mi wybod dim yn eich plith, #Gal 6:14ond Iesu Grist, a hwnnw wedi ei groeshoelio. 3A #Act 18:1, 6, 12mi a fûm yn eich mysg #2 Cor 11:30; 12:5, 9; Gal 4:13mewn gwendid, ac ofn, a dychryn mawr. 4A’m hymadrodd a’m pregeth i, #2 Pedr 1:16ni bu mewn geiriau #2:4 hygoel.denu o ddoethineb ddynol, ond yn eglurhad yr Ysbryd a nerth: 5Fel na byddai eich ffydd mewn doethineb dynion, ond #2 Cor 4:7; 6:7mewn nerth Duw. 6A doethineb yr ydym ni yn ei llefaru ymysg #Phil 3:15; Heb 5:14rhai perffaith: eithr nid doethineb y byd hwn, na thywysogion y byd hwn, y rhai sydd yn diflannu. 7Eithr yr ydym ni yn llefaru doethineb Duw mewn dirgelwch, sef y ddoethineb guddiedig, #Rhuf 16:25, 26; Eff 3:5, 9; Col 1:26; 2 Tim 1:9yr hon a ragordeiniodd Duw cyn yr oesoedd i’n gogoniant ni: 8#Mat 11:25; Act 13:27Yr hon nid adnabu neb o dywysogion y byd hwn: oherwydd #Act 3:17; Edrych Ioan 16:3pes adwaenasent, ni chroeshoeliasent Arglwydd y gogoniant. 9Eithr fel y mae yn ysgrifenedig, #Esa 64:4Ni welodd llygad, ac ni chlywodd clust, ac ni ddaeth i galon dyn, y pethau a ddarparodd Duw i’r rhai a’i carant ef. 10Eithr #Mat 13:11; 16:17; 1 Ioan 2:27Duw a’u heglurodd i ni trwy ei Ysbryd: canys yr Ysbryd sydd yn chwilio pob peth; ie, dyfnion bethau Duw hefyd. 11Canys pa ddyn a edwyn bethau dyn, #Diar 20:27; 27:19; Jer 17:9ond ysbryd dyn yr hwn sydd ynddo ef? felly hefyd, pethau Duw nid edwyn neb, ond Ysbryd Duw. 12A nyni a dderbyniasom, nid ysbryd y byd, ond #Rhuf 8:15yr Ysbryd sydd o Dduw; fel y gwypom y pethau a rad roddwyd i ni gan Dduw. 13#2 Pedr 1:16; Edrych pen 1:17Y rhai yr ydym yn eu llefaru hefyd, nid â’r geiriau a ddysgir gan ddoethineb ddynol, ond a ddysgir gan yr Ysbryd Glân; gan gydfarnu pethau ysbrydol â phethau ysbrydol. 14Eithr dyn anianol nid yw yn derbyn y pethau sydd o Ysbryd Duw: canys ffolineb ydynt ganddo ef; #Rhuf 8:5, 6, 7; Jwdas 19ac nis gall eu gwybod, oblegid yn ysbrydol y bernir hwynt. 15#Diar 28:5; 1 Thess 5:21Ond yr hwn sydd ysbrydol, sydd yn #2:15 canfod.barnu pob peth; eithr efe nis #2:15 canfyddir.bernir gan neb. 16#Esa 40:13Canys pwy a wybu feddwl yr Arglwydd, yr hwn a’i cyfarwydda ef? Ond y mae gennym ni feddwl Crist.

Uwcholeuo

Copi

Cymharu

Rhanna

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda