Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Genesis 3

3
DOSBARTH III
Hanes y Cwymp, &c.
1Ond y sarff oedd gyfrwysach na holl fwystfilod y ddaiar, y rhai a wnaethai yr Arglwydd Dduw. A’r sarff a ddywedodd wrth y wraig, “Pa ham y dywedodd Duw, Na fwytëwch o bob pren o’r ardd?” 2A’r wraig a ddywedodd wrth y sarff, “O bob pren o’r ardd y cawn ni fwyta; 3ond am ffrwyth y pren sydd yng nghanol yr ardd, Duw a ddywedodd, ‘Na fwytëwch o hono, ac na chyffyrddwch ag ef, rhag eich marw.’” 4A’r sarff a ddywedodd wrth y wraig, “Ni byddwch feirw ddim; 5canys gwybod yr oedd Duw, mai ym mha ddydd bynag y bwytaoch o hono ef, yr agorir eich llygaid, ac y byddwch fel duwiau, yn gwybod da a drwg.” 6A phan welodd y wraig mai da oedd y pren yn fwyd, ac mai hyfrydwch i’r llygaid oedd edrych arno, ac ei fod yn hardd i’w ardremu arno, hi a gymmerth o’i ffrwyth ef, ac a fwytaodd; ac a roddes i’w gwr hefyd gyda hi; a hwy a fwytasant. 7A’u llygaid hwy eill dau a agorwyd; a hwy wybuant eu bod yn noethion, ac a wnïasant ddail y ffigysbren, ac a wnaethant iddynt arffed-ogau. 8A hwy a glywsant lais yr Arglwydd Dduw yn rhodio yn yr ardd yn yr hwyr; ac ymguddiodd Adda a’i wraig rhag gwyneb yr Arglwydd Dduw, ym mysg prenau yr ardd. 9A’r Arglwydd Dduw a alwodd ar Adda, ac a ddywedodd wrtho, “Adda, pa le yr wyt ti?” 10Yntau a ddywedodd wrtho, “Dy lais a glywais, a Thi yn rhodio yn yr ardd, a mi a ofnais; o blegid noeth ydwyf; ac a ymguddiais.” 11A dywedodd Duw wrtho, “Pwy a fynegodd i ti dy fod yn noeth? Ai o’r pren, yr hwn yn unig y gorchymmynaswn i ti na fwytäit o hono, y bwyteaist?” 12Ac Adda a ddywedodd, “Y wraig a roddaist gyda mi, hi a roddodd i mi o’r pren; a mi a fwyteais.” 13A’r Arglwydd Dduw a ddywedodd wrth y wraig, “Pa ham y gwnaethost ti hyn?” A’r wraig a ddywedodd, “Y sarff a’m twyllodd, a bwyta a wnaethym.” 14A’r Arglwydd Dduw a ddywedodd wrth y sarff, “Am wneuthur o honot hyn, melltigedicach wyt ti na’r holl anifeiliaid, ac na holl fwystfilod y ddaiar. Ar dy fron a’th dor y cerddi, a phridd a fwytäi holl ddyddiau dy einioes. 15Gelyniaeth hefyd a osodaf rhyngot ti a’r wraig, a rhwng dy had di a’i Had hithau; Efe a ysiga dy ben di, a thithau a ysigi ei sawdl Ef.” 16Wrth y wraig hefyd y dywedodd, “Gan amlhau yr amlhâf dy ofidiau a’th riddfan: mewn gofid y dygi blant; a’th ddychweliad fydd at dy wr; ac efe a lywodraetha arnat ti.” 17Hefyd wrth Adda y dywedodd, “Am wrando o honot ar lais dy wraig, a bwyta o’r pren, am yr hwn yn unig y gorchymmynaswn i ti na fwytäit o hono (o hwnw y bwyteaist), melltigedig yw y ddaiar yn dy lafur di: mewn helbulon y bwytäi o honi holl ddyddiau dy einioes. 18Drain ac ysgall a ddwg hi i ti; a llysiau y maes a fwytäi di 19Trwy chwys dy wyneb y bwytäi dy fara, hyd pan ddychwelych i’r ddaiar, yr hon y’th gymmerwyd o honi; canys pridd wyt ti, ac i’r pridd y dychweli.”
20Ac Adda a alwodd enw ei wraig, Efa; o blegid hi oedd i fod fam pob dyn byw. 21A’r Arglwydd Dduw a wnaeth i Adda ac i’w wraig beisiau crwyn, ac a’u gwisgodd am danynt hwy. 22Hefyd Duw a ddywedodd, “Wele, Adda oedd fel Un o Honom Ni, i wybod da a drwg. Ac weithian, rhag iddo un amser estyn ei law, a chymmeryd o bren y bywyd, a bwyta, a byw yn dragwyddol” — 23am hyny yr anfonodd yr Arglwydd Dduw ef allan o Ardd Hyfrydwch, i lafurio y ddaiar, yr hon y cymmerasid ef o honi. 24Felly Efe a yrodd allan Adda, ac a wnaeth iddo drigo gyferbyn â Gardd Hyfrydwch; ac a osododd y cerubiaid, â chleddyf tanllyd ysgwydedig, i gadw ffordd pren y bywyd.

Dewis Presennol:

Genesis 3: YSEPT

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd