Rhufeiniaid 14:10-12
Rhufeiniaid 14:10-12 BNET
Felly pam wyt ti mor barod i feirniadu dy gyd-Gristnogion ac edrych i lawr arnyn nhw? Cofia y bydd rhaid i bob un ohonon ni sefyll o flaen llys barn Duw. Fel mae’r ysgrifau sanctaidd yn dweud: “‘Mor sicr â’r ffaith fy mod i’n fyw,’ meddai’r Arglwydd, ‘Bydd pob glin yn plygu i mi, a phob tafod yn rhoi clod i Dduw’” Bydd rhaid i bob un ohonon ni ateb drosto’i hun o flaen Duw.

