Rhufeiniaid 12:12-16
Rhufeiniaid 12:12-16 BNET
Byddwch yn llawen wrth feddwl am y cwbl sydd gan Dduw ar eich cyfer chi. Byddwch yn amyneddgar tra dych chi’n dioddef, a daliwch ati i weddïo. Rhannwch beth sydd gynnoch chi gyda phobl Dduw sydd mewn angen. Ewch allan o’ch ffordd i roi croeso i ymwelwyr yn eich cartrefi bob amser. Peidiwch melltithio’r bobl hynny sy’n eich erlid chi – gofynnwch i Dduw eu bendithio nhw. Byddwch yn llawen gyda phobl sy’n hapus, a chrio gyda’r rhai sy’n crio. Byddwch yn ffrindiau da i’ch gilydd. Peidiwch meddwl eich bod yn rhy bwysig i fod yn ffrindiau gyda’r bobl hynny sy’n ‘neb’. Peidiwch rhoi’r argraff eich bod yn gwybod y cwbl.




