Rhufeiniaid 10:10-12
Rhufeiniaid 10:10-12 BNET
Credu yn y galon sy’n dy wneud di’n iawn gyda Duw, a chei dy achub wrth gyffesu hynny’n agored. Fel mae’r ysgrifau sanctaidd yn dweud: “Fydd pwy bynnag sy’n credu ynddo ddim yn cael ei siomi.” Mae’n union yr un fath i’r Iddew ac i bawb arall. Un Arglwydd sydd, ac mae’n rhoi yn hael o’i fendithion i bwy bynnag sy’n galw arno.



