Dysga fi sut i fyw, O ARGLWYDD, i mi dy ddilyn di’n ffyddlon. Gwna fi’n benderfynol o dy addoli di’n iawn. Bydda i’n dy addoli o waelod calon, O ARGLWYDD fy Nuw, ac yn anrhydeddu dy enw am byth. Mae dy gariad tuag ata i mor fawr! Ti wedi fy achub i o ddyfnder Annwn. O Dduw, mae yna bobl haerllug wedi troi yn fy erbyn i. Mae yna griw creulon am fy lladd i, Does dim bwys ganddyn nhw amdanat ti. Ond rwyt ti, O ARGLWYDD, mor drugarog a charedig, rwyt mor amyneddgar! Mae dy haelioni a dy ffyddlondeb di’n anhygoel! Tro ata i, a dangos drugaredd! Rho dy nerth i dy was, Achub blentyn dy gaethferch! Dangos i mi ryw arwydd o dy ddaioni, er mwyn i’r rhai sy’n fy nghasáu i weld hynny a chael eu cywilyddio am dy fod ti, ARGLWYDD, wedi fy helpu i a’m cysuro.
Darllen Salm 86
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Salm 86:11-17
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos