Salm 57:7-11
Salm 57:7-11 BNET
Dw i’n benderfynol, O Dduw; dw i’n hollol benderfynol. Dw i’n mynd i ganu mawl i ti. Deffro, fy enaid! Deffro, nabl a thelyn! Dw i’n mynd i ddeffro’r wawr gyda’m cân. Dw i’n mynd i ddiolch i ti, O ARGLWYDD, o flaen pawb! Dw i’n mynd i ganu mawl i ti o flaen pobl o bob cenedl! Mae dy gariad di mor uchel â’r nefoedd, a dy ffyddlondeb di yn uwch na’r cymylau. Dangos dy hun yn uwch na’r nefoedd, O Dduw, i dy ysblander gael ei weld drwy’r byd i gyd!

