Does dim byd mwy gwerthfawr bellach na’r fraint aruthrol o gael nabod fy Arglwydd, y Meseia Iesu! Dw i’n gallu byw heb y pethau eraill i gyd, cyn belled â mod i’n cael y Meseia. Sbwriel ydy’r cwbl o’i gymharu â chael perthyn i’r Meseia! Bellach, dw i ddim yn honni bod mewn perthynas iawn gyda Duw ar sail beth dw i wedi llwyddo i’w wneud (hynny ydy, ufuddhau i’r Gyfraith Iddewig). Yr unig beth sy’n cyfri bellach ydy fod Iesu y Meseia wedi bod yn ffyddlon – mae perthynas iawn gyda Duw yn rhodd i ni sy’n credu ynddo! Bellach yr unig beth dw i eisiau ydy dod i nabod y Meseia Iesu yn well, drwy brofi y pŵer hwnnw wnaeth ei godi yn ôl yn fyw ar ôl iddo farw, a gallu dioddef fel y gwnaeth e – hyd yn oed os bydd hynny’n golygu marw drosto! Bydda innau wedyn yn cael rhannu’r profiad o godi yn ôl yn fyw ar ôl i mi farw. Dw i ddim yn honni fy mod i eisoes wedi cyrraedd, nac yn honni bod yn berffaith! Ond dw i’n dal ati er mwyn ennill y cwbl mae’r Meseia Iesu wedi’i fwriadu ar fy nghyfer i pan alwodd fi i’w ddilyn. Frodyr a chwiorydd annwyl, dw i ddim am eiliad yn meddwl mod i eisoes wedi cyrraedd! Y cwbl dw i’n ei ddweud ydy hyn: Dw i’n anghofio beth sydd tu cefn i mi ac yn canolbwyntio fy holl egni ar beth sydd o mlaen i. Fel taswn i mewn ras, dw i’n rhedeg at y llinell derfyn gyda’r bwriad o ennill! Dw i am ennill y wobr sydd gan Dduw ar ein cyfer ni. Ei alwad i’r nefoedd o achos beth wnaeth y Meseia Iesu.
Darllen Philipiaid 3
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Philipiaid 3:8-14
28 Diwrnod
Darlleniadau dyddiol i dy helpu i gael blas ar y Beibl. Mae'r rhain wedi eu paratoi gan Gobaith i Gymru a beibl.net gyda chefnogaeth SU Cymru. Mae Blas ar y Beibl 2 yn addasiad gan Alun Tudur o Bob Dydd Gyda Iesu. Defnyddir gyda chaniatâd y cyhoeddwyr.
30 Days
God made you for this moment in time… to love the unlovable, reflect peace in turmoil, and show defiant joy in every situation. You can do what seems impossible by learning what the Bible says about your human emotions and how to manage them. This devotional covers the ordinary and sometimes extraordinary challenges we face each day, and provides Biblical references to help manage your emotions in a Godly way.
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos