Dylai eich agwedd chi fod yr un fath ag agwedd y Meseia Iesu: Roedd e’n rhannu’r un natur â Duw, heb angen ceisio gwneud ei hun yn gydradd â Duw; ond dewisodd roi ei hun yn llwyr i wasanaethu eraill, a gwneud ei hun yn gaethwas, a dod aton ni fel person dynol – roedd yn amlwg i bawb ei fod yn ddyn. Yna diraddio ei hun fwy fyth, a bod yn ufudd, hyd yn oed i farw – ie, drwy gael ei ddienyddio ar y groes. Felly dyma Duw yn ei ddyrchafu i’r safle uchaf; a rhoi’r enw pwysica un iddo! Bydd pob glin yn plygu i enw Iesu – pawb yn y nefoedd, ar y ddaear, a than y ddaear; a bydd pawb yn cydnabod mai Iesu Grist ydy’r Arglwydd, ac yn rhoi clod i Dduw y Tad.
Darllen Philipiaid 2
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Philipiaid 2:5-11
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos