I mi, y Meseia ydy holl ystyr a phwrpas byw, a dw i’n ennill hyd yn oed os bydda i’n cael fy lladd! Ond wedyn ar y llaw arall, os ca i fyw bydda i’n gallu dal ati i weithio dros y Meseia Iesu. Beth fyddwn i’n ei ddewis fy hun? Dw i ddim yn gwybod! Dw i’n cael fy nhynnu’r naill ffordd a’r llall: Dw i’n dyheu am gael gadael y byd yma i fod gyda’r Meseia am byth – dyna’n sicr ydy’r peth gorau allai ddigwydd i mi, o bell ffordd! Ond mae’n well o lawer i chi os ca i aros yn fyw. O feddwl am y peth, dw i’n reit siŵr y bydda i’n aros, i’ch helpu chi i dyfu a phrofi’r llawenydd sydd i’w gael o gredu yn y Meseia. Felly pan fydda i’n dod atoch chi eto, bydd gynnoch chi fwy fyth o reswm i frolio am y Meseia Iesu. Ond beth bynnag fydd yn digwydd i mi, gwnewch yn siŵr eich bod chi’n dal ati i ymddwyn mewn ffordd sy’n dangos fod y newyddion da am y Meseia yn wir. Wedyn, os bydda i’n dod i’ch gweld chi neu beidio, byddwch chi’n sefyll yn gadarn ac yn brwydro’n galed gyda’ch gilydd dros y newyddion da. Peidiwch bod ag ofn y bobl hynny sy’n eich erbyn chi. Bydd hyn i gyd yn arwydd iddyn nhw y byddan nhw’n cael eu dinistrio, ond y cewch chi eich achub – a hynny gan Dduw. Eich braint chi ydy dim yn unig credu yn y Meseia, ond hefyd cael dioddef drosto. Dych chi’n wynebu yn union yr un frwydr weloch chi fi’n ei hymladd! A dw i’n dal yn ei chanol hi fel dych chi’n gweld.
Darllen Philipiaid 1
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Philipiaid 1:21-30
7 Days
We're always told, "It's just another part of life," but trite sayings don't make the sting of losing a loved one any less painful. Learn to run to God when facing one of life's most difficult challenges.
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos