Dw i eisiau i chi wybod, frodyr a chwiorydd, fod beth sydd wedi digwydd i mi wedi troi’n gyfle newydd i rannu’r newyddion da. Mae holl filwyr y Gwarchodlu a phawb arall yma yn gwybod mod i yn y carchar am fy mod i’n gweithio i’r Meseia. Does neb yma sydd ddim yn gwybod hynny! Ac mae’r ffaith fy mod i yn y carchar hefyd wedi helpu’r rhai sy’n credu i fod yn fwy hyderus – does ganddyn nhw ddim ofn rhannu neges Duw. Mae’n wir mai cenfigen a chystadleuaeth sy’n ysgogi rhai i gyhoeddi’r neges am y Meseia, ond mae eraill sy’n gwneud hynny am y rhesymau iawn. Cariad sy’n eu hysgogi nhw, ac maen nhw’n gwybod mod i yn y carchar i amddiffyn y newyddion da. Tynnu sylw atyn nhw eu hunain mae’r grŵp cyntaf – dŷn nhw ddim o ddifri. Yr unig beth maen nhw eisiau ydy gwneud pethau’n anodd i mi tra dw i yn y carchar. Ond pa wahaniaeth? Beth bynnag ydy eu rhesymau nhw, y peth pwysig ydy bod y neges am y Meseia yn cael ei chyhoeddi! Mae hynny’n fy ngwneud i’n hapus. A hapus fydda i hefyd! Dych chi wrthi’n gweddïo, ac mae Ysbryd Iesu y Meseia yn fy nghynnal i. Felly dw i’n gwybod y bydda i’n cael fy rhyddhau yn y diwedd. Dw i’n edrych ymlaen at y dyfodol yn frwd, ac yn gobeithio na wna i ddim byd i siomi fy Arglwydd. Dw i eisiau bod yn ddewr bob amser, ac yn arbennig felly nawr, fel bod y Meseia yn cael ei fawrygu drwy bopeth dw i’n ei wneud – hyd yn oed petai rhaid i mi farw yma!
Darllen Philipiaid 1
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Philipiaid 1:12-20
30 Days
Discover the wisdom of Oswald Chambers, author of My Utmost for His Highest, in this treasury of insights about joy. Each reading features quotations from Chambers along with questions for your own personal reflection. As he inspires and challenges you with his simple and direct biblical wisdom, you will find yourself wanting to spend more time communicating with God.
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos