Tra oedden nhw’n bwyta dyma Iesu’n cymryd torth, ac yna, ar ôl adrodd y weddi o ddiolch, ei thorri a’i rhannu i’w ddisgyblion. “Cymerwch y bara yma” meddai, “Dyma fy nghorff i.”
Yna cododd y cwpan, adrodd y weddi o ddiolch eto a’i basio iddyn nhw, a dyma nhw i gyd yn yfed ohono.
“Dyma fy ngwaed,” meddai, “sy’n selio ymrwymiad Duw i’w bobl. Mae’n cael ei dywallt ar ran llawer o bobl. Credwch chi fi, fydda i ddim yn yfed gwin eto, nes daw’r diwrnod hwnnw pan fydda i’n yfed o’r newydd pan fydd Duw yn teyrnasu.”
Wedyn ar ôl canu emyn, dyma nhw’n mynd allan i Fynydd yr Olewydd.
“Dych chi i gyd yn mynd i droi cefn arna i,” meddai Iesu wrthyn nhw. “Mae’r ysgrifau sanctaidd yn dweud:
‘Bydda i’n taro’r bugail,
a bydd y defaid yn mynd ar chwâl.’
Ond ar ôl i mi ddod yn ôl yn fyw af i o’ch blaen chi i Galilea.”
“Wna i byth droi cefn arnat ti!” meddai Pedr wrtho. “Hyd yn oed os bydd pawb arall yn gwneud hynny!”
“Wir i ti,” meddai Iesu wrtho, “heno, cyn i’r ceiliog ganu ddwywaith, byddi di wedi gwadu dair gwaith dy fod yn fy nabod i!”
Ond roedd Pedr yn mynnu, “Na! wna i byth wadu mod i’n dy nabod di! Hyd yn oed os bydd rhaid i mi farw gyda ti!” Ac roedd y lleill yn dweud yr un peth.
Dyma Iesu’n mynd gyda’i ddisgyblion i le o’r enw Gethsemane. “Eisteddwch chi yma,” meddai wrthyn nhw, “dw i’n mynd i weddïo.” Aeth a Pedr, Iago ac Ioan gydag e, a dechreuodd brofi dychryn a gwewyr meddwl oedd yn ei lethu. “Mae’r tristwch dw i’n ei deimlo yn ddigon i’m lladd i,” meddai wrthyn nhw. “Arhoswch yma a gwylio.”
Aeth yn ei flaen ychydig, a syrthio ar lawr a gweddïo i’r profiad ofnadwy oedd o’i flaen fynd i ffwrdd petai hynny’n bosib. “ Abba ! Dad!” meddai, “Mae popeth yn bosib i ti. Cymer y cwpan chwerw yma oddi arna i. Ond paid gwneud beth dw i eisiau, gwna beth rwyt ti eisiau.”
Pan aeth yn ôl at ei ddisgyblion roedden nhw’n cysgu. A meddai wrth Pedr, “Simon, wyt ti’n cysgu? Allet ti ddim cadw golwg am un awr fechan? Cadwch yn effro, a gweddïwch y byddwch chi ddim yn syrthio pan gewch chi’ch profi. Mae’r ysbryd yn frwd, ond y corff yn wan.”
Yna aeth Iesu i ffwrdd a gweddïo’r un peth eto. Ond pan ddaeth yn ôl roedden nhw wedi syrthio i gysgu eto – roedden nhw’n methu’n lân â chadw eu llygaid ar agor. Doedden nhw ddim yn gwybod beth i’w ddweud.
Pan ddaeth yn ôl y drydedd waith, meddai wrthyn nhw, “Dych chi’n cysgu eto? Dal i orffwys? Dyna ni, mae’r foment wedi dod. Dw i, Mab y Dyn, ar fin cael fy mradychu i afael pechaduriaid. Codwch, gadewch i ni fynd! Mae’r bradwr wedi cyrraedd!”